Beti A'i Phobol

  • Autor: Vários
  • Narrador: Vários
  • Editora: Podcast
  • Duração: 443:26:51
  • Mais informações

Informações:

Sinopse

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Episódios

  • Liz Saville Roberts

    07/01/2024 Duração: 51min

    Yr Aelod Seneddol Liz Saville Roberts ydi gwestai Beti George. Y ferch gyntaf yn hanes Plaid Cymru i ennill sedd yn Senedd San Steffan yn cynrychioli Dwyfor Meirionnydd. Cyn mentro i faes gwleidyddiaeth bu’n newyddiadura ac yn darlithio. Cafodd ei geni a’i magu yn Ne Ddwyrain Llundain. Aeth i’r Coleg yn Aberystwyth i astudio Cymraeg a Llydaweg a’r Mabinogi sy’n gyfrifol am ei denu i Gymru a chofleidio’r iaith a’i diwylliant.

  • Ifan Phillips

    31/12/2023 Duração: 50min

    Y cyn chwaraewr Rygbi Ifan Phillips ydi gwestai Beti a’i Phobol. Un sydd wedi chwarae Rygbi dros Gymru i’r tîm dan ugain yn y flwyddyn enillon nhw bencampwriaeth y chwe gwlad am y tro cyntaf. Mae wedi chwarae efo’r Gweilch yn safle’r Bachwr ond daeth hynny i gyd i ben ar ôl iddo gael damwain erchyll ar ei fotobeic. Mae o bellach yn hyfforddi tîm Crymych ac yn sylwebu ar y gêm.

  • Yws Gwynedd

    24/12/2023 Duração: 59min

    Y cerddor a Rheolwr Cwmni Recordiau Cosh, Yws Gwynedd ydi gwestai Beti a’i Phobol. Mae’n sôn am ei fywyd, algorithmau cerddorol, chwarae pêl droed, ei pum sied, tyfu llysiau, a'i deulu gan gynnwys hanes colli ei dad yn ystod cyfnod Cofid.

  • Cleif Harpwood

    10/12/2023 Duração: 51min

    Prif leisydd y band arloesol Edward H. Dafis, Cleif Harpwood yw gwestai Beti a’i Phobol, ond yn y rhifyn yma mae’n trafod mwy am hanes ei fywyd na’i gerddoriaeth. Bu’n hel atgofion gyda Beti George am ei fagwraeth yng Nghwmafan ac yn sôn am siop bapur newydd ei Dad, ac effaith y ffordd osgoi ar gymunedau’r ardal. Mae’n sôn am iselder sydd wedi ei lethu ar brydiau a hynny mae’n credu wedi deillio o’r elfen grefyddol yn ei fagwraeth yn Aberafan. Mae bellach wedi symud nôl i'r Gorllewin i fyw ac yn dewis 4 o'i hoff ganeuon, gan gynnwys 'Anifail' gan Candelas.

  • Rory Francis

    03/12/2023 Duração: 50min

    Rory Francis yr amgylcheddwr, ymgyrchydd a chyfathrebwr sy'n gweithio dros Gymru wyrddach mewn byd mwy cynaliadwy yw gwestai Beti George. Mae'n siarad 9 iaith ac fe ddechreuodd yr awch i ddysgu ieithoedd yn 6 mlwydd oed ym Mhenbedw. Rhyw 6 mlynedd nôl fe ddechreuodd ddysgu Rwsieg, ac mae'n weddol rhugl bellach yn yr iaith yna hefyd.

  • Tomos Parry

    19/11/2023 Duração: 49min

    Beti George yn sgwrsio gyda'r cogydd, Tomos Parry o Ynys Môn sydd wedi ennill ei seren Michelin gyntaf am ei fwyty yn Llundain. Agorodd Tomos fwyty Brat yn Shoreditch ym mis Mawrth 2018 ac mae wedi mynd o nerth i nerth. Cafodd y seren ei gwobrwyo i Tomos gan Michelin am "goginio rhagorol dros dân agored". Dros gyfnod COVID agorodd Tomos dŷ bwyta Brats Outdoors lle roedd cwsmeriaid yn gallu eistedd tu allan. Roedd hwn eto’n lwyddiant ac mae’n dal i fynd yn Hackney. Ei fenter ddiweddaraf ydi’r tŷ bwyta Mountain yn Soho a agorwyd yn mis Gorffennaf 2023. Hefyd, Tomos wnaeth goginio pryd o fwyd i ddathlu 20 mlynedd o briodas David a Victoria Beckham.

  • Bronwen Lewis

    12/11/2023 Duração: 50min

    Y gantores Bronwen Lewis sydd yn cadw cwmni gyda Beti George. Fe ddaeth i amlygrwydd yn ystod y cyfnod clo gan iddi rannu ei chaneuon ar y gwefannau cymdeithasol. Fe gafodd brofiad diflas ar sioe dalent The Voice, ond fe agorodd drysau eraill, bu'n canu ar y ffilm Pride ac mae hi bellach yn cyflwyno ar Radio Wales. Mae'r gantores ifanc o Gwm Dulais yn trafod pam mor allweddol mae'r Gymraeg wedi bod ym mhob rhan o’i gyrfa hyd yn hyn, ac mae hefyd yn sôn am ei diagnosis llynedd o ADHD a hefyd Rejection sensitive dysphoria (RSD).

  • Guto Harri

    05/11/2023 Duração: 01h12min

    Y newyddiadurwr a'r ymgynghorydd cyfathrebu Guto Harri yw gwestai Beti George. Mae'n trafod ei gyfnod yn gweithio fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu i'r Prif Weinidog Boris Johnson, ac yn rhannu straeon am y cyfnod y bu'n gweithio wrth galon yr hyn oedd yn digwydd yn San Steffan, mewn cyfnod cythryblus yn hanes y lle. Bu'n gweithio i geisio adfer enw da papurau newydd Rupert Murdoch yn ystod cyfnod y 'phone hacking'. Bu hefyd yn gyflwynydd gyda GB News, ar raglen "Y Byd yn ei Le" ar S4C ac yn gweithio gyda chwmni Liberty Global. Cawn ei hanes yn brechu pobol yn ystod cyfnod Covid-19, ac mae'n sôn am yr ergyd o golli ei chwaer, ei Dad a'i ffrind pennaf.

  • Mali Ann Rees

    29/10/2023 Duração: 49min

    Yr actores Mali Ann Rees ydi gwestai Beti a’i Phobol. A hithau ond yn 17 oed bu’n ddisgybl mewn Coleg yn India am ddwy flynedd yn astudio bagloriaeth ryngwladol. Bu ddigon ffodus wedyn i gael ei derbyn i goleg drama yn Llundain ond yn anffodus ni wnaeth hi fwynhau ei chyfnod yno gan i’r coleg gnocio ei hyder yn llwyr. Serch hynny, mae Mali yn un o’r actoresau amlycaf ac wedi actio mewn nifer o gynyrchiadau nodedig fel Craith, The Tourist Trap a The Pact. Mae hi hefyd yn un o dair sy’n cyfrannu i’r podlediad wythnosol, Mel Mal a Jal, sef tair Cymraes siaradus.

  • Felicity Roberts

    23/10/2023 Duração: 48min

    Mae Felicity Roberts yn Diwtor a Chydlynydd Cymraeg i Oedolion yn Dysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae wedi bod yn diwtor Cymraeg am dros hanner can mlynedd. Yn 2023 enillodd wobr am fod yn diwtor Cymraeg Ysbrydoledig gyda ‘Inspire Awards’ dan nawdd Llywodraeth Cymru. Magwyd Felicity ar aelwyd llawn cariad yn Chwilog a bu ei magwraeth yno yn ysbrydoliaeth iddi ar hyd ei hoes. Cafodd ei haddysg yn ysgol gynradd Chwilog hyd nes roedd hi’n 8 oed, yna am 3 blynedd bu’n aros yng nghwfaint St Gerard’s Bangor. Roedd ei rhieni’n awyddus iddi gael addysg yn y cwfaint er mwyn gwneud yn siŵr bod Felicity yn pasio’r arholiad 11+. Yna mynychodd Ysgol Ramadeg Pwllheli ac ar ôl 2 flynedd ym Mhwllheli safodd yr arholiadau i fynd i Ysgol Howells yn Ninbych. Ers dyddiau ysgol roedd hi wedi bod yn canlyn Robert Roberts ac roedd y ddau’n fyfyriwr yn y Coleg Normal, Bangor. Priododd y ddau ar ddiwedd eu blwyddyn gyntaf a ganwyd eu plentyn cyntaf ar ddiwedd eu hail flwyddyn, y cyntaf o chwe phlentyn i'r ddau. Swydd gy

  • Richard Holt

    08/10/2023 Duração: 50min

    Mae stori Richard Holt y cogydd a'r gŵr busnes o Ynys Môn yn llawn troeon annisgwyl. Gradd mewn technoleg cerdd sydd ganddo o Brifysgol Caerdydd, ond ar ôl gweithio mewn tai bwyta yn Ynys Môn ac i'r cogydd enwog Marcus Wareing yn Llundain fe gafodd ei ddadrithio a rhwng swyddi coginio fe aeth at y Llu Awyr i fod yn beilot, ond doedd ganddo ddim yr arian i dalu am yr hyfforddiant i hedfan awyren. Yna tro annisgwyl arall a hynny ar ôl darllen llyfr 'Think and Grow Rich' pan ar ei wyliau yn y Grand Canyon, ac ar ôl dychwelyd i Ynys Môn ar ôl cyfnod yn Llundain fe ddaeth tro annisgwyl arall, diolch i Meinir Gwilym gan iddi anfon neges ato yn sôn bod les Melin Llynon yn Llanddeusant ar gael, a hynny yn ystod cyfnod covid yn 2019. Bellach mae o'n rhedeg busnes llwyddiannus yn creu teisennau rhyfeddol, siocled a gin ac yn cyflogi ei deulu ac yn mwynhau cyflwyno Yr Academi Felys ar S4C.

  • Dr Dewi Evans

    01/10/2023 Duração: 48min

    Pediatrydd yw gwestai Beti George a dreuliodd ei yrfa fel ymgynghorydd gofal plant yn Abertawe. Wedyn fe aeth i faes y gyfraith gan roi tystiolaeth mewn achosion Llys yn ymwneud a phlant. Yn y 30 mlynedd ers iddo ddechrau yn y maes yma mae wedi rhoi tystiolaeth mewn llysoedd ar draws gweledydd Prydain ac yn Iwerddon, ond achos Lucy Letby a garcharwyd am oes am lofruddio babanod bach oedd yn ei gofal mewn ysbyty yng Nghaer yw'r un mwyaf heriol hyd yma. Fe oedd un o brif dystion yr erlyniad.

  • Meinir Howells

    03/09/2023 Duração: 56min

    Meinir Howells yw gwestai Beti George, ac mae ei angerdd tuag at y byd amaeth yn fawr. Mae hi’n gyflwynwraig teledu ac yn cyfuno hynny gyda ffermio gyda’i gŵr Gary ar fferm Shadog, sydd ym mhentre’ Cwrt, Llandysul. Mae hi hefyd yn fam i ddau fach, Sioned a Dafydd.Breuddwyd ers pan yn blentyn oedd bod yn gyflwynydd teledu a'i harwr mawr oedd Dai Jones Llanilar, feddyliodd hi erioed y byddai'n cael y cyfle i wneud gwaith tebyg 'dream job' oedd ei geiriau. Bu hefyd yn sôn fod ganddi ddyled fawr i Fudiad y Ffermwyr Ieuanc, ac na fyddai yn cyflwyno heddiw oni bai am y profiadau a gafodd gyda hwy.Mae Meinir yn weithgar gyda’r gymuned yn codi arian tuag at elusennau gwahanol, Tir Dewi, Ambiwlans Awyr ac elusennau cancr. Ar hyn o bryd mae hi yng nghanol ffilmio'r gyfres Ffermio, S4C a 3ydd cyfres Teulu Shadog a fydd yn cael ei darlledu mis Mawrth 2024.

  • Elin Maher

    27/08/2023 Duração: 50min

    Elin Maher yw gwestai Beti a'i Phobol. Mae hi'n gweithio fel Cyfarwyddwr Cenedlaethol Rhieni Dros Addysg Gymraeg, ac yn ymgynghorydd iaith ac addysg lawrydd ers nifer o flynyddoedd bellach - ac wedi bod yn gweithio yn y byd addysg ac o fewn maes datblygu cymunedol a chynllunio ieithyddol trwy gydol ei gyrfa, gyda’r Gymraeg a dwyieithrwydd yn graidd i’w gwaith. Yn enedigol o Gwm Tawe, ond yn byw yng Nghasnewydd gyda’i theulu ers ugain mlynedd. Mae’n parhau i weithio’n ddyfal yn datblygu addysg Gymraeg a’r Gymraeg o fewn y gymuned yng Ngwent a thu hwnt drwy ei gwaith fel llywodraeth wraig ysgol brofiadol ac aelod o fyrddau nifer o elusennau lleol a chenedlaethol. Bu'n byw yn yr Iwerddon am gyfnod ar ôl priodi Aidan yn 1998, fe gwrddodd y ddau yn 1993 pan oedd Elin wedi mynd efo’r Urdd i wersyll yn Iwerddon gan fudiad tebyg iawn i’r Urdd. Bu hefyd yn byw am gyfnod yn Angers, ardal y Loire yn Ffrainc yn ystod ei blwyddyn allan o'r Brifysgol.

  • Dr Eilir Hughes

    11/08/2023 Duração: 50min

    Meddyg teulu a ddaeth i amlygrwydd reit o ddechrau’r pandemig gan iddo chwarae rhan mor bwysig wrth geisio rheoli'r Covid-19 yw gwestai Beti a'i Phobol, ac fe gafodd ei enwebu am ei waith ar gyfer un o wobrau Dewi Sant. Mae Dr Eilir Hughes yn gweithio fel meddyg teulu yn Nefyn, Gogledd Cymru.Mae'n gwerthuso meddygon teulu yn yr ardal a newydd ddechrau fel Cyfarwyddwr Meddygol gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.Sefydlodd ymgyrch Awyr Iach Cymru i hyrwyddo pwysigrwydd awyru a gwisgo masgiau i leihau'r risg o ledaenu a dal COVID-19. Daeth yn wyneb cyfarwydd ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y cyfnod. Sefydlodd raglen frechu yn y gymuned hefyd. Tŷ Doctor yn Nefyn oedd un o'r meddygfeydd cyntaf i frechu cleifion â'r brechlyn Pfizer.

  • Mared Rand Jones

    23/07/2023 Duração: 50min

    Gwestai Beti George yw Mared Rand Jones sydd wedi cychwyn ar ei rôl newydd fel Prif Weithredwr Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Cymru ers Ionawr 2023.Magwyd Mared ar fferm laeth, Llanfair Fach, Llanfair Clydogau, Llanbedr Pont Steffan.Mynychodd Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan ac yna Coleg y Drindod lle enillodd radd yn y Gymraeg ac Astudiaethau Theatr.Mae Mared yn mwynhau actio ac yn aelod o gwmni actio Theatr Felinfach ac yn actio’r cymeriad 'PC Wpsi Deisi' yn y pantomeim Nadolig blynyddol.

  • Cerys Hafana

    09/07/2023 Duração: 50min

    Mae Cerys Hafana yn gyfansoddwr ac aml-offerynnwr sy’n manglo a thrawsnewid cerddoriaeth draddodiadol. Mae ei cherddoriaeth yn chwarae efo posibiliadau unigryw’r delyn deires, gan gymryd ysbrydoliaeth o ddeunydd archifol a phrosesu electronig. Mae'n byw ym Machynlleth ac yn rhannu straeon am ei phlentyndod, ei dylanwadau cerddorol megis Nansi Richards, a Siân James. Mae'n trafod cerddoriaeth gwerin a'r feirniadaeth fu am ei gwaith a hefyd yn teimlo bod angen siarad mwy am rhywedd.

  • Dr Owain Rhys Hughes

    02/07/2023 Duração: 50min

    Gwestai Beti George ydi Dr Owain Rhys Hughes - llawfeddyg a pherchennog cwmni Cinapsis, meddalwedd sydd yn rhoi cymorth i feddygon a chleifion i gael diagnosis yn gynt. Wedi ei fagu ym Mhenmynydd ger Porthaethwy, aeth i Gaerdydd i astudio meddygaeth, a dewisodd fynd yn llawfeddyg gan ei fod yn mwynhau anatomi pan yn y Coleg. Yn ystod ei flwyddyn olaf yn y coleg cafodd y cyfle i fynd i weithio i Boston yn yr Unol Dalaethiau ar ôl cael cymrodoriaeth i Harvard. Mae'n mwynhau dringo yn ei amser sbâr.

  • Richard Hughes

    25/06/2023 Duração: 51min

    Arbenigwr ar gyfrifiaduron a mathemateg o Gaernarfon, Richard Hughes ydi gwestai Beti George. Mae'n raglennydd cyfrifiadureg, ac wedi gweithio ar systemau gweithredu ym meysydd awyr Heathrow a Charles de Gaulle. Mae wedi dysgu 10 o ieithoedd cyfrifiadurol, ac ati ac wedi ysgrifennu sawl rhaglen gyfrifiadurol ei hun. Bu'n gyrru lori, yn gwneud cyfrifiadur ar gyfer y ffilm Billion Dollar Brain efo Michael Caine yn y 60'au ac mae'n mwynhau chwarae'r ffliwt a dyfarnu snwcer, ac mae wedi ymgartrefu yn yr Almaen ers blynyddoedd.

  • Edward Morus Jones

    18/06/2023 Duração: 51min

    Edward Morus Jones yw gwestai Beti George yr wythnos hon. Mae'n trafod ei gartref fferm Eithin Fynydd yn Llanuwchllyn, ac yn hel atgofion am recordio Cwm Rhyd y Rhosyn gyda Dafydd Iwan a'r cyfnod yn canu gyda Mary Hopkin.Ers 40 mlynedd mae wedi bod yn ymwneud â Chymru a’r byd ac eleni, cafodd ei anrhydeddu gan y sefydliad Cymru gogledd America, sef medal am ei gyfraniad ar hyd y blynyddoedd. Bellach mae Edward wedi dechrau pennod newydd yn ei fywyd, wrth iddo rannu ei amser rhwng Llangristiolus ac yn Philadelphia.

página 3 de 30