Informações:
Sinopse
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Episódios
-
Carwyn Graves
11/06/2023 Duração: 50minBeti George yn sgwrsio gyda Carwyn Graves awdur a hanesydd bwyd Cymru. Carwyn yw awdur 'Afalau Cymru' a'r gyfrol o ysgrifau am fwyd 'Welsh Food Stories'. Mae Carwyn newydd gychwyn ar swydd newydd yng Nghanolfan Tir Glas, Llanbed sy'n fenter newydd sbon ar y cyd â’r Brifysgol yn Llanbed. Maent yn ceisio creu canolfan arloesol o gwmpas bwyd cynaliadwy. Ar hyn o bryd, mae’n bosib astudio bwyd os ydi rhywun yn awyddus i redeg tŷ bwyta neu astudio bwyd o safbwynt gwyddonol fel maetheg. Ond does dim cwrs wedi bod cyn hyn ar gyfer astudio bwyd o safbwynt diwylliannol. Sut mae tyfu bwyd ac adfer cymunedau – gweithio gyda’r sector amaeth. Mae cyrsiau fel hyn i’w cael yn yr Eidal – ond ddim ym Mhrydain.
-
Bethan Marlow
04/06/2023 Duração: 50minBethan Marlow, dramodydd sy'n sgwennu ar gyfer Theatr, Ffilm a Theledu, yw gwestai Beti George. Bethan yw'r dramodydd cyntaf i ddefnyddio arddull verbatim yn y Gymraeg, sef defnyddio geiriau go iawn pobol a'u troi yn ddramâu. Yn wreiddiol o bentref Bethel ger Caernarfon, bu Bethan yn byw yn Llundain, Caerdydd a Miami a bellach mae hi wedi ymgartrefu gyda Carolina a'r plant yn Lanzarote.Llun: Kristina Banholzer
-
Dafydd Hywel
28/05/2023 Duração: 49minFel teyrnged i’r diweddar Dafydd Hywel, dyma gyfuniad o ddwy raglen wnaeth Beti a'i Phobol recordio gyda'r actor yn 1984 a 2004.Yn wreiddiol o'r Garnant ger Rhydaman, bu'n actio ers y 1960au mewn cynyrchiadau Cymraeg a Saesneg ar lwyfan, ffilm a theledu.
-
Wil Rowlands
21/05/2023 Duração: 50minArtist o Ynys Môn yw gwestai Beti George. Cawn ei hanes yn cwrdd â Andy Warhol a Johnny Cash ac mae o’n sôn am ei gyfeillgarwch â R.S Thomas – mae ganddo lyfr sydd yn llawn brasluniau wnaeth o R.S Thomas wrth drafod Duw a chantorion Opera Rwsieg yn ei stiwdio yng Nghemaes.
-
Betty Williams
14/05/2023 Duração: 50minBeti George yn sgwrsio gyda Betty Williams Gwleidydd Llafur. Hi oedd Aelod Senedd y Deyrnas Unedig dros etholaeth Conwy o 1997 hyd 2010. Yn wreiddiol o Dalysarn, Dyffryn Nantlle. Mae hi'n rhannu straeon difyr ei bywyd ac yn dewis ambell gân.
-
Sioned Lewis
07/05/2023 Duração: 51minSioned Lewis, sy'n gwnselydd ac yn seicotherapydd, yw gwestai Beti a'i Phobol.Yn wreiddiol o Ddolwyddelan, bu'n gweithio mewn sawl maes gwahanol: yn gwerthu tai, yn y byd teledu a gyda Mudiad Ysgolion Meithrin. Yn 1999 gorfu i Sioned adael ei gwaith gan fod ganddi ganser y fron a bu'n gyfnod anodd ofnadwy iddi. Rhwng 1999- 2001 bu Sioned mewn ac allan o wahanol ysbytai. Sioned yw cwnselydd rhaglen Gwesty Aduniad.
-
Iola Ynyr
30/04/2023 Duração: 50minIola Ynyr, Cyfarwyddwr Creadigol ac Ysgrifenwraig yw gwestai Beti a'i Phobol. Byd y ddrama yw ei byd hi ac mae hi'n cynnal gweithdai ‘Ar y Dibyn’ sydd yn herio’r stereoteip o bobol sydd â dibyniaeth. Bu Iola’n dioddef o salwch meddwl - alcoholiaeth ac iselder ac mae hi'n trafod y cyfnod yma gyda Beti George.
-
Robat Idris
23/04/2023 Duração: 50minRobat Idris Davies o Ynys Môn yw gwestai Beti George. Mae'n ymgyrchydd brwd, yn Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith, ac yn Is-Gadeirydd Cymdeithas y Cymod. Mae hefyd yn aelod o Orsedd Beirdd Ynys Môn, yn Gyfarwyddwr Cymdeithas Morisiaid Môn, ac yn aelod o Bwyllgor Gweithredol PAWB – Pobl Atal Wylfa B. Mae'n sôn am ei waith fel Milfeddyg ac am ei gyfnod yn Japan yn dilyn dinistr Fukushima.
-
Al Lewis
09/04/2023 Duração: 50minY canwr a'r cyfansoddwr Al Lewis sydd yn gwmni i Beti George. Yn wreiddiol o Bwllheli, fe ymddangosodd Al, a’i gyfaill oes Arwel (Gildas) am y tro gyntaf ar ein sgrins teledu yn canu ‘Llosgi’ ar Cân i Gymru. Ers hynny mae wedi rhyddhau pump albwm yn y Gymraeg a dwy albwm Saesneg. Mae'n trafod galar gyda Beti a sut y gwnaeth marwolaeth ei Dad yn ifanc newid cwrs ei fywyd. Mae hefyd yn sôn am ei gyfnod yn Nashville a Llundain.
-
Elin Angharad
02/04/2023 Duração: 49minCrefftwraig lledr o ganolbarth Cymru yw Elin Angharad. Mae gwaith celf, dylunio a chreu wedi bod o ddiddordeb mawr iddi ers yn ifanc. Bu'n astudio cwrs 'Artist, Designer, Maker yn y Brifysgol yng Nghaerdydd, ac wedyn cychwyn busnes ei hun yn dylunio a chreu cynnyrch wedi ei wneud o ledr.
-
Delyth Morgan
26/03/2023 Duração: 51minDelyth Morgan - actores, cyflwynydd a hyfforddwraig tîm rygbi merched Cymru dan 18 a 20 oed - sy'n gwmni i Beti George. Mae ganddi ddwy wlad mae hi'n galw'n gartref - Cymru a Seland Newydd. Fe aeth allan yno 20 mlynedd nôl, fe gafodd waith, priodi a bu'n datblygu rygbi merched. Mae hi nôl yng Nghymru gyda'i merch Seren, a rygbi yw ei byd mewn gwirionedd. Fe chwaraeodd dros Gymru a nawr mae hi'n rheoli tîm rygbi merched Cymru dan 18 ac 20 oed.
-
Berwyn Rowlands
19/03/2023 Duração: 48minBerwyn Rowlands, y trefnydd a 'r cynhyrchydd yw gwestai Beti George, ac mae bellach yn adnabyddus am ei waith gyda Gwobrau Iris Gŵyl Ffilm LGBTQ+. Fe ddaw Berwyn yn wreiddiol o Ynys Môn, ac mae'n sôn am ddylanwad Ysgol Gynradd Llangoed ac Ysgol David Hughes, Porthaethwy arno. Mae mewn perthynas â Grant ers 34 mlynedd - a nhw oedd y cwpl cyntaf i gael partneriaeth sifil ar Ionawr 25ain 2006.
-
Pat Morgan
12/03/2023 Duração: 51minPat Morgan aelod allweddol o'r band eiconig Datblygu yw gwestai Beti a'i Phobol. "Mae'n magic fel mae hi'n gweithio" geiriau Dave Datblygu. Mae hi'n siarad am ei magwraeth yn y Ficerdy, dechrau grŵp pop Y Cymylau gyda'i chwaer, a'i chariad tuag at gerddoriaeth.
-
William Owen Roberts - Wil Garn
05/03/2023 Duração: 50minAwdur nofelau Y Pla, Petrograd, Paris a Paradwys, i enwi ond rhai, yw gwestai Beti George, William Owen Roberts neu Wil Garn i lawer sydd yn ei adnabod. Mae'n trafod beth sydd yn ei ysgogi i ysgrifennu ac yn sôn am ei gyfnod yn y Coleg yn Aberystwyth lle bu'n rhannu tŷ gyda'r diweddar Iwan Llwyd. Mae hefyd yn trafod ei nofel ddiweddaraf Cymru Fydd.
-
Cledwyn Jones
19/02/2023 Duração: 52minBu farw Cledwyn Jones, oedd fwyaf adnabyddus fel aelod o Driawd y Coleg, yn Hydref 2022 ac yntau'n 99 mlwydd oed.Dyma gyfle i fwynhau plethiad o 2 raglen recordiodd Beti George gydag ef yn 2015. Un o Dal-y-sarn yn Nyffryn Nantlle oedd Cledwyn Jones, ac wedi cyfnod gyda'r awyrlu aeth i Goleg Prifysgol Bangor. Yno y cyfarfu â dau aelod arall y triawd poblogaidd - Meredydd Evans a Robin Williams - ac fe fuont yn perfformio ar lwyfannau nosweithiau llawen ledled Cymru.
-
Dr Nia Wyn Jones
05/02/2023 Duração: 50minDarlithydd Hanes Canol Oesol a Modern ym Mhrifysgol Bangor, Dr Nia Wyn Jones yw gwesai Beti George. Daw yn wreiddiol o Abertawe ac wedi blynyddoedd lawer o anhapusrwydd fe benderfynodd gael triniaeth i newid ei rhywedd yn ddiweddar.
-
Rhiannon Boyle
29/01/2023 Duração: 50minY dramodydd Rhiannon Boyle yw'r gwestai. Mae ei drama newydd ar gyfer Radio Cymru, 'Lysh', wedi’i selio ar brofiadau personol a’i pherthynas hi gydag alcohol. Pan fyddai hi'n yfed roedd yn tueddu o yfed tipyn ar y tro, gan fynd dros ben llestri a gwneud pethau gwirion. Wedi iddi roi'r gorau i yfed am fis, teimlodd bod ei hiechyd meddwl wedi gwella, ac roedd hi'n cysgu'n well. O ganlyniad, mi benderfynodd beidio ag yfed alcohol eto. Cawn glywed am sut y dechreuodd astudio Drama yn yr ysgol, wedi cyfnod anodd ar ôl i'w rhieni wahanu, a sut y newidiodd ei byd. Clywn hefyd am rai o'i dramâu, yn cynnwys 'Safe From Harm' i Radio 4, sydd dal ar BBC Sounds; 'Anfamol' a gynhyrchwyd gan y Theatr Genedlaethol, a'i chomisiwn diweddaraf i addasu'r nofel 'Un Nos Ola Leuad' ar gyfer Radio 4 a Radio Cymru.
-
Annie Walker
15/01/2023 Duração: 52minAnnie Walker yw gwestai Beti George. Mae hi’n artist, a ddaw'n wreiddiol o Fferm Blaen Halen, Castell Newydd Emlyn, ac 'roedd hi’n yr un dosbarth â Beti yn ysgol Llandysul. Bu’n astudio Celf yn Newcastle, ac yn ddiweddarach bu’n rhan o greu set 2001 Space Odyssey - Ffilm Ffuglen Wyddonol (sci-fi) Stanley Kubrick MGM, yn Boreham Wood, ar ôl gweld hysbyseb yn y Times.Mae hi’n fam i bedair merch. Mae Hannah yn briod i‘r cyflwynydd teledu a’r actor Alexander Armstrong, ac mae Esther yn briod â'r newyddiadurwr a’r darlledwr Giles Coren.Fe enillodd Ann gystadleuaeth yng nghylchgrawn GIRL. Cafodd dipyn o syndod o gael ei galw i gyfweliad yn Llundain gan fod 17,000 o ferched wedi anfon lluniau i mewn i'r cylchgrawn. Y wobr oedd cael mynd i Florence yn yr Eidal i weld lluniau a cherfluniau o'r Dadeni (Renaissance). Joyce Fitzwilliams oedd yr athrawes gyda hi i Florence, ac roedd yn drip anhygoel, gan gyfarfod â Pietro Annigoni yn ei stiwdio. 'Roedd ef wedi dod yn enwog iawn ar ôl gwneud portread o'r Frenhines. 'Roedd
-
Kath Morgan
08/01/2023 Duração: 51minKath Morgan, sylwebydd pêl droed a chyn Gapten tîm pêl droed merched Cymru, yw gwestai Beti a'i Phobol. Dechreuodd Kath chwarae pêl droed yn yr ysgol gynradd a hithau’n 7 oed; mae’n cofio diflasu chwarae gyda’r genethod a phenderfynu ei bod yn awyddus i ymuno efo’r bechgyn. Bu'n gwylio'r bechgyn yn chwarae am flynyddoedd i ddysgu sgiliau. Mae hi newydd ddychwelyd o Qatar lle bu'n sylwebu yno gyda Radio Cymru, ac fe recordiwyd y rhaglen hon ar y 13eg o Ragfyr 2022, yn ystod Cwpan y Byd. Ganwyd Kathryn Mary Morgan yn ysbyty Aberdâr ac fe'i magwyd yn Merthyr; mae hi'n sôn am ei magwraeth a'r gefnogaeth a gafodd gan ei theulu i chwarae pêl droed.Mae hi wedi dysgu Aaron Ramsey, ac 'roedd e bob amser yn ei holi hi pryd 'roedd hi'n chwarae ei gem nesa. Mae Kath yn hoff iawn o emynau gan eu bod yn ei hatgoffa o’i chefndir capel a’r ysgol Sul. Mae'r emyn Pantyfedwen (Tydi a Roddaist) yn un o'i dewisiadau.
-
Rhian Morgan
01/01/2023 Duração: 50minYr actores Rhian Morgan yw gwestai Beti George. Yn ddiweddar mae hi wedi cymryd llwybr newydd yn ei bywyd ac yn hyfforddi i fod yn Offeiriad. Mae Rhian newydd gychwyn cwrs 2 flynedd gyda’r Eglwys yng Nghymru yng Ngholeg San Padarn; mae’n ddatblygiad annisgwyl iawn yn ei bywyd meddai hi, a hynny yn dilyn profiad anhygoel a ddigwyddodd iddi yn yr Eglwys yn Llandeilo. Cafodd Rhian ei geni yn Ysbyty Treforys a’i magu ym mhentref Cwm Rhyd y Ceirw ger Treforys yng Nghwm Tawe. Hi yw’r hynaf o dair chwaer; mae Nia yn nyrs yn Awstralia ac mae Elen yn darlithio a chyfarwyddo. Mae Rhian yn briod gydag Aled Samuel ac mae ganddi ddau o feibion.Ar hyd y blynyddoedd mae Rhian wedi bod yn ffodus iawn i gael cyfle i chwarae nifer fawr o rannau mewn dramâu ac mewn cynyrchiadau teledu, mae’n sôn am rai ohonynt gan gynnwys y cyfle i actio efo Anthony Hopkins yn y ffilm August.