Pigion: Highlights For Welsh Learners
- Autor: Vários
- Narrador: Vários
- Editora: Podcast
- Duração: 94:41:47
- Mais informações
Informações:
Sinopse
Y darnau gorau o raglenni BBC Radio Cymru gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. BBC Radio Cymru highlights for Welsh learners.
Episódios
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 6ed o Fedi 2022
16/09/2022 Duração: 15minBore Cothi Sarah Astley Hughes sy’n byw yng Nghaerdydd, ond sy’n dod Lanrhaeadr ym Mochnant, Powys yn wreiddiol, fuodd yn sôn wrth Shelley Rees Owen ar Bore Cothi fore Iau am ei phenderfyniad i groesawu’r gwallt llwyd ar ôl cael llond bol o orfod lliwio ei gwallt bob pythefnos!Croesawu - To welcome Lliwio - To dye Sylweddoli - To realise Ffili - Methu Colurwraig - Make-up artistBwrw Golwg Ddechrau wythnos diwetha mi ddaeth y newyddion am y llifogydd ofnadwy sydd wedi taro Pacistan. Dyma i chi Tom Davies o’r elusen Cymorth Cristnogol yn sôn am y drychineb…Llifogydd - Floods Trychineb - Disaster Heb rybudd - Without warning Diflannu’n weddol glou - Disappearing quite quickly Distryw - Destruction Ceisio dygymod â - Trying to come to terms with Yn sgil - As a consequence of Cilio - To recede Newid hinsawdd - Climate change Argyfyngau - CrisisCymry a Mwy Pan symudodd Gwenfair Griffith a’i theulu i Sydney, Awstralia, sefydlodd hi Grŵp Chwarae Cymraeg er mwyn helpu ei phlant i gadw cysylltiad â’u gwreiddiau yng Ngh
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 30ain o Awst 2022
30/08/2022 Duração: 14minDros Ginio Mae Jeremy Paxman wedi dweud ei fod am roi’r gorau i University Challenge wedi 28 mlynedd o gyflwyno’r cwis. Dr Alun Owens fuodd yn sôn wrth Dewi Llwyd am ei amser ar y rhaglen yn 2015 pan oedd o’n fyfyriwr yn Mhrifysgol Abertawe. Dyna oedd y tro cynta i Brifysgol Abertawe fod ar y rhaglen ers tua 20 mlynedd. Rhoi’r gorau i To give up Haerllug Cheeky Camddeall To misunderstand Ymdrech An attempt Dychrynllyd Frightening Yr ystafell werdd The green room Lled awgrym A hint of a suggestion Delwedd darlledu Broadcasting image Croesholwr Cross examiner Dirmygus ScornfulBore Cothi Dr Alun Owens oedd hwnna’n sôn am ei brofiad ar University Challenge. Mi fuodd Heledd Cynwal yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes wythnos diwetha ac mi gafodd hi sgwrs efo’r arbenigwraig ffasiwn, Sina Haf Hudson am y cynllunydd ffasiwn o Siapan , Issey Myake fuodd farw ar Awst 5 eleni... Persawr Perfume Oglau Fragrance Hawlio To claim Fyw i rywun
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 23ain 2022
23/08/2022 Duração: 13minCofio - Gwersylla oedd thema Cofio dros y Sul ac mi gaethon ni gyfle arall i glywed Wil Parry Williams o Dregarth yng Ngwynedd, yn sôn am weithio fel Red Coat yng ngwersyll Butlins, Pwllheli rhwng 1954 a 1961. Agorwyd y gwersyll 75 mlynedd yn ôl a chlywon ni’r recordiad arbennig yma am y tro cynta ar raglen Cofio yn 2009. Gwersylla To campOddeutu AboutYchwanegol AdditionalGan benna(f) MainlyAdnoddau ResourcesCychod BoatsAdran feithrin NurseryAdloniant EntertainmentDiddori To entertainDyletswyddau cyffreinol General dutiesDei Tomos – Wel ia, hi di hi yn wir – hanes diddorol Butlins Pwllheli yn fanna ar Cofio. Aeth Dei Tomos i Aberystwyth i weld llyfrgell bersonol Gerald Morgan sydd yn awdur, ac yn gyn athro a phrifathro. Mi aeth draw i’w gartref a chael gweld rhywbeth prin iawn - copi o Destament Newydd William Salesbury oedd yn dyddio’n ôl i 1567! Prin iawn Very rareRhagair IntroductionBiau To ownYn gymharol ddiweddar Fairly recentlyCasglwyr Collect
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 16eg o Awst 2022
16/08/2022 Duração: 13minStiwdio Nofel hanesyddol enillodd gwobr Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ac ar Stiwdio buodd Nia Roberts yn dathlu bywyd a gwaith awdures sy’n enwog ar ei nofelau hanesyddol sef Marion Eames. Hi sgwenodd Y Stafell Ddirgel a’r Rhandir Mwyn, ac roedd hi hefyd yn gerddor talentog. Cafodd hi ei geni yn 1921 a buodd farw yn 2007. Aeth Nia draw i Ddolgellau i gwrdd â’r Dr Buddug Hughes yng Nghapel y Tabernacl I gael ‘chydig o hanes cynnar Marion Eames… Cymry alltud Welsh exilesDianc To escapeYn ddiwylliannol ac yn grefyddol Culturally and religiouslyCyfarfu Gwladys a William Gwladys and William metYr aelwyd The homePrinder tai affwysol Severe housing shortagePrin oedd ei gafael ar y Gymraeg Her grasp of Welsh was very weak Chwithig aruthrol Lletchwith iawnAwyddus EagerCyfoedion PeersAled Hughes Ychydig o hanes bywyd cynnar yr awdures Marion Eames yn fan’na ar Stiwdio. Dach
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 2il o Awst 2022
02/08/2022 Duração: 13minGwneud Bywyd yn Haws Hanna Hopwood yn holi Gwenllian Thomas, sy’ wrth ei bodd yn gwneud triathlon – nofio, rhedeg a beicio! Mae hi’n fam brysur ond mae cymryd rhan mewn triathlon yn rhan bwysig o’i bywyd. Sut dechreuodd ei diddordeb yn gamp tybed? Camp SportBant I ffwrdd Dim taten o ots Dim ots o gwblCroesawu To welcomeMeddylfryd MindsetRhannu profiadau To share experiencesDros Frecwast – Gemau'r GymanwladGwenllian yn fan’na yn sôn am ei diddordeb mewn triathlon sef un o’r campau cynta i ddigwydd yn Ngemau’r Gymanwlad eleni. Agorwyd y Gemau yn Birmingham ar yr 28ain o Orffennaf a chafodd Ifan Gwyn Davies sgwrs efo Ashleigh Barnikel sy’n cymryd rhan yn y Gemau fel aelod o garfan Jiwdo Cymru... Gemau’r Gymanwlad Commonwealth GamesCarfan SquadUn fodfedd dros bum troedfedd Five foot oneDwywaith ei maint Twice her sizePencampwraig Champion (female)O ddifri SeriouslyRhyngwladol InternationalTorfeydd CrowdsAil wynt Second windDros F
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 26ain o Orffennaf 2022
26/07/2022 Duração: 14minPigion Aled Hughes Rhestr fer dysgwr y flwyddynMi fuodd Aled Hughes yn cael sgwrs efo’r 4 sydd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn 2022. Mi fydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn Eisteddfod Tregaron wythnos nesa. Bore Llun mi gafodd o gyfle i ddod i nabod Stephen Bale, un o’r pedwar sydd yn y ffeinal. Mae Stephen yn dod o ardal Castell-nedd yn wreiddiol ond erbyn hyn mae o’n byw yn Sir Fynwy. Rhestr fer Short listCyhoeddi To announceCastell-nedd NeathSir Fynwy MonmouthshireCwrs dwys Intensive courseYn y pendraw In the endDegawd DecadeGohebydd CorrespondentRhyngwladol InternationalY Llewod The LionsHyrwyddo To promotePigion Aled Hughes DyFlwyddyn – Sophie Tuckwodd Stephen Bale oedd hwnna – gohebydd rygbi sydd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn eleni. Dydd Mawrth mi gafodd Aled gyfle i gael sgwrs efo Sophie Tuckwood un arall sydd ar y rhestr fer. Daw Sophie o Nottingham yn wreiddiol ond symudodd hi i Sir Benfro ddeg mlynedd yn ôl. Wynebu To faceAr yr un pryd At the sam
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 19eg o Orffennaf 2022
19/07/2022 Duração: 12minCor y Byd LlangollenCȏr CF1 o Gaerdydd enillodd gystadleuaeth Cȏr y Byd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen eleni. Dyma i chi flas ar sgwrs rhwng Eilir Owen Griffiths, arweinydd y côr a Shan Cothi fore Llun diwetha. Arweinydd ConductorYmarfer RehearsalDatblygu To developParatoi To prepareLlwyfan A stageSymudiadau MovementsCerddorion MusiciansCreu To createBalch ProudAnwen bowlio i'r gymanwlad…a llongyfarchiadau mawr i Eilir ac i gôr CF1 ynde? Eleni mi fydd Anwen Butten yn cystadlu am y chweched tro yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham, ac mi fydd y gemau’n cychwyn ar yr 28ain o Orffennaf. Mae Anwen wedi cael ei dewis fel Capten Tîm Cymru yn y gemau eleni, felly bydd hi’n gapten ar 202 o athletwyr o Gymru. Gofynnodd Shan Cothi i Anwen sut dechreuodd hi ar y bowlio…. Gemau’r Gymanwlad Commonwealth GamesTîm hŷn Senior TeamHyfforddi To coachCefnogwr brwd An enthusiastic supporterProfiadol ExperiencedYn olygu MeansAnrhydedd Honour Dros Ginio Dyfrig a Rhodr
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 12fed o Orffennaf 2022
12/07/2022 Duração: 15minDros Ginio Beti a RaymondMam a mab o Ddyffryn Nantlle yng Ngwynedd oedd gwesteion Dewi Llwyd bnawn Llun. Y cyn Aelod Seneddol Betty Williams a’i mab, y Rhingyll , neu Sarjant, Raymond Williams sy’n gweithio i Heddlu Gogledd Cymru. Cyn Aelod Seneddol - Former Member of Parliament Yn hen gyfarwydd - Very familiarLlwyddiant ysgubol - A roaring successPetrusgar - HesitantY naill a’r llall - One or the otherTrychineb - DisasterFfasiwn beth - Such a thingAm wn i - As far as I knowSerth - SteepBrwdfrydig - EnthusiasticABC Y Geiriadur Raymond Williams a’i fam Betty yn sôn am ran Raymond yn y gyfres Y Llinell Las.Taith drwy’r wyddor yng nghwmni Ifor ap Glyn ydy ABC y Geiriadur, i ddathlu canmlwyddiant Geiriadur y Brifysgol - geiriadur mwya Cymru. Mae’r geiriadur ar gael ar-lein erbyn hyn ,ac mae o am ddim! Mae’r awdures Manon Steffan Ross yn gwneud defnydd mawr o’r geiriadur ar-lein fel buodd hi’n sôn wrth Ifor… Canmlwyddiant - CentenaryPenodol - SpecificGweddu - To suitAntur - AdventureCyd-destun - ContextAmaethyddol
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 5ed o Orffennaf 2022
05/07/2022 Duração: 12minDei Tomos Gwilym OwenDw i’n siwr ein bod ni i gyd yn gwybod am Harri’r Wythfed a’i chwe gwraig, ond ar raglen Dei Tomos clywon ni hanes bonheddwr o ogledd Cymru, Edward Gruffydd, oedd fel Harri wedi priodi sawl gwaith, a hynny pan oedd Harri’n frenin. Un o Stad y Penrhyn ger Bangor oedd Edward a dyma i chi ran o sgwrs cafodd Dei amdano efo’r darlithydd Gwilym Owen o Brifysgol Bangor...Bonheddwr - GenltemanMewn gwirionedd - In realityFawr hŷn - Hardly any olderPwys mawr - Great pressureCyfoethocach - RicherCefnog - Well-offDylanwadu - To influenceTystiolaeth - EvidenceDychwelyd - To returnI’r neilltu - To one sideDros Ginio Elfyn ac AlunDoedd na ddim sôn bod Edward wedi cael yr un problemau cyfreithiol a gafodd Harri o ran priodi sawl gwaith – ond hanes ddiddorol ynde? Dau frawd o fyd y gyfraith oedd gwesteion Dewi Llwyd ar Dros Ginio, y bargyfreithiwr a’r gwleidydd Elfyn Llwyd a’i frawd y plismon Alun Hughes. Roedd eu tad yn blismon, felly roedd y gyfraith yng ngwaed y ddau! Elfyn, y brawd mawr, sy’n siarad
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 29ain Mehefin 2022
29/06/2022 Duração: 15minBeti a'i Phobol Aled RobertsAr Beti a'i Phobol ddydd Sul, mi gaethon ni gyfle i ail-wrando ar sgwrs Beti efo Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, fuodd farw mis Chwefror eleni yn 59 mlwydd oed. Cafodd Aled ei eni a'i fagu yn Rhosllannerchrugog, ger Wrecsam, a dyma i chi flas ar y sgwrs ble mae o'n esbonio wrth Beti beth oedd o'n ei weld yn heriau'r swydd a sut oedd o'n eu hwynebu... Heriau - ChallengesHwyrach - Efallai Arweinydd cyngor - Council leaderHamddenol - LeisurelyGwthio - To pushAwyddus - EagerAdlewyrchu - To reflectCryfder - StrengthTwf aruthrol - Huge growthDrwy gyfrwng - Through the medium of...ac mae colled mawr i Gymru ac i'r Gymraeg ar ôl Aled Roberts. Aled Hughes ac Meurig Rees Jones Buodd Syr Paul McCartney yn perfformio yn Glastonbury wythnos diwetha ac yntau newydd ddathlu ei benblwydd yn 80. Ond oeddech chi'n gwybod bod y Beatles yn ymwelwyr cyson â Phortmeirion? Meurig Rees Jones ydy Rheolwr Lleoliadau Portmeirion, a buodd o'n siarad efo Aled Hughes fore Llun
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 21ain Mehefin 2022
21/06/2022 Duração: 17minGwneud Bywyd yn Haws Oeddech chi’n gwybod mae’r Ffindir a’r Swistir ydy’r ddwy wlad hapusa i fyw ynddyn nhw? Wel yn ôl un adroddiad beth bynnag. Dewch i ni gael clywed dipyn am fywyd yn y ddwy wlad gan Dwynwen Hedd o’r Swistir a Tristan Owen Williams o’r Ffindir. Dyma nhw’n sgwrsio efo Hanna Hopwood ar Gwneud Bywyd yn Haws.Mor ddwfn - So deep Diwylliant - Culture Cyd-fynd - To agree Traddodiad - Tradition Coedwigoedd - Forests Penodol - Specific Ysgogi - To motivate Noeth - Naked Bedydd tân - Baptism of fireA sôn am sauna, os dach chi isio gwybod rhagor gan Trystan a Dwynwen ac am fywyd yn y Ffindir a’r Swistir yna agorwch ap BBC Sounds a theipio’r geiriau Gwneud Bywyd yn Haws i fewn i’r bar bach chwilio.Aled Hughes a Maggie Morgan Wedi dysgu Cymraeg mae Maggie Morgan a buodd hi’n chwilio mewn i hanes ei theulu yn y gobaith o ddod o hyd i’r rhesymau pam nad oedd ei theulu bellach yn siarad Cymraeg. Cafodd Aled Hughes sgwrs efo Maggie ar ei raglen fore Llun.Bellach - By now Di-Gymraeg - Non Welsh speaking Mew
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 14eg 2022
14/06/2022 Duração: 14minDros Ginio Dafydd Iwan Mi fydd tîm pêl-droed Cymru yn cystadlu yng Nghwpan y Byd yn Qatar fis Tachwedd ar ôl i'r tîm guro Wcráin yn Stadiwm Dinas Caerdydd wythnos diwetha. Mi wnaeth y crysau coch yn wych ond roedd canu'r Wal Goch yn bwysig hefyd yn enwedig wrth iddyn nhw ganu 'Yma o Hyd' efo Dafydd Iwan. Dyma Dafydd yn sôn am y profiad ar Dros GinioBreuddwyd - A dream Cyfuno - To combine Manteisio ar y cyfle - Taking advantage of the opportunity Bwriadol - Intentional Mynegi teimladau - Expressing the feelings Rhyfeddol - Wonderful Cyfraniad - Contribution Trefnwyr cefn llwyfan - Backstage organisers Profiad bythgofiadwy - An unforgettable experienceAc mi gyrhaeddodd y gân 'Yma o hyd' rhif 1 yn siart I-Tunes wythnos diwetha - anhygoel ynde?Arfon Wyn Un o arwyr Cymru yn y gêm oedd y gôl-geidwad, neu'r gôli, Wayne Hennessey. Aeth Wayne i ysgol gynradd Biwmares pan oedd o'n blentyn a dyma i chi Arfon Wyn, oedd yn bennaeth yr ysgol ar y pryd, yn sôn wrth Dylan Ebenezer am sut dechreuodd gyr
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 7fed 2022
07/06/2022 Duração: 14minBeti a Ceri Isfryn Mae Ceri Isfryn wedi gweithio ar sawl gyfres deledu fel The One Show, Watchdog Rogue Traders, a Panorama a hi ydy cynhyrchydd y gyfres House of Maxwell sy'n dilyn hanes Robert Maxwell a'i deulu. Dim ond dwy oed oedd Ceri pan fuodd Robert Maxwell farw yn 1991. Faint felly oedd hi'n gwybod am hanes teulu Maxwell cyn dechrau gweithio ar y gyfres? Dyma hi'n sgwrsio efo Beti George...Cynhyrchydd - Producer Cenhedlaeth - Generation Dylanwad - Influence Ymchwilio - To research Diflasu - To become bored of Iddew - Jew Datblygu - To develop Moesau - Morals Cofeb - Memorial Delwedd - ImageCeri Isfryn yn sôn wrth Beti George am ei gwaith ymchwil i deulu Robert Maxwell. Dros Ginio Ieuan a Rhisiart Y ddau frawd Ieuan Wyn Jones a Rhisiart Arwel oedd y ddau cyn dau efo Dewi Llwyd . Roedd Ieuan yn arfer bod yn Ddirprwy Brif Weinidog Cymru ac mae Rhisiart yn gerddor. Faint o ffrindiau oedden nhw pan oedden nhw'n ifanc tybed? Dirprwy Brif Weinidog Cymru - Deputy First Ministe
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 31ain 2022
31/05/2022 Duração: 17minBeti a Sian Eirian Mae Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Nimbych yr wythnos hon ac mi gafodd Beti George gwmni Cyfarwyddwr Dros Dro yr Eisteddfod, Sian Eirian, ar Beti a'i Phobol fore Sul. Yn y gorffennol buodd Sian yn gweithio fel Pennaeth Rhaglenni Plant S4C a dyma hi'n sôn am yr adeg aeth hi â CYW (y cyw annwyl felly- eicon rhaglenni plant bach) i gyfarfod â Boris Johnson pan oedd o'n Faer Llundain...Cyfarwyddwr Dros Dro - Temporary Director Awyddus I ymestyn - Eager to extend Adran Gyfathrebu - Communications Department Sylweddoli - To realize Tanddaearol - Underground Heddlu cudd - Secret police Terfysgwr - Terrorist Gweithredu - To act (upon) Degau ar ddegau - Many (lit: tens on tens)Hanes 'Cywgate' yn fan'na gan Sian Eirian. Butlins Oeddech chi'n gwybod bod yna Eisteddfodau o fath yn Butlins Pwllheli ac yn Butlins y Barri ers talwm? Wel cystadleuaeth talent oedden nhw cael eu galw mewn gwirionedd! Buodd Ffion Emyr yn cyflwyno rhaglen oedd yn edrych yn ôl ar
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 24ain 2022
24/05/2022 Duração: 12minDei Tomos a Gwyn Elfyn Yr actor Gwyn Elfyn oedd gwestai Dei Tomos wythnos diwetha. Fo oedd Densil yn Pobol y Cwm am flynyddoedd ac yn siarad efo acen de Cymru ar y rhaglen. Ond yn y clip nesa dan ni'n clywed Gwyn yn sgwrsio efo Dei Tomos efo acen ogleddol Blaenau Ffestiniog. Pa acen ydy yr un naturiol iddo fo felly?Tafodiaith - Dialect Cyfeillion - Ffrindiau Honni - To claim Lwcus ydy Gwyn Elfyn ynde, yn medru siarad yn naturiol yn nhafodiaith y de a'r gogledd. Gwenno Williams Tafarn yr Heliwr Dydd Llun cafodd Aled Hughes sgwrs efo Gwenno Williams o dafarn gymunedol Yr Heliwr yn Nefyn. Roedd pobl Nefyn wedi codi arian i brynu'r adeilad ac i ail-wneud rhannau o'r dafarn er mwyn ei chael yn barod ar gyfer y cyhoedd. Awgrymodd Aled wrth Gwenno bod stori yr Heliwr yn stori o gymuned yn uno ac yn llwyddo a dyma oedd ymateb Gwenno... Cymuned - Community Hwb - A boost Gwireddu - To make it happen Ail-wneud - To redo Gwirfoddoli - To volunteer Budd mawr - A great benefit Gwobr - Prize Ysbrydoliae
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 17fed 2022
17/05/2022 Duração: 14minBeti a Dr Sara Louise Wheeler Mae'r Dr Sara Louise Wheeler yn dod o ardal Wrecsam yn wreiddiol, ac mae hi'n falch iawn ei bod hi'n siarad efo acen arbennig pentref Rhosllannerchrugog. Ond fel cawn ni glywed yn y clip nesa doedd pawb ddim yn hoff o'r acen honno...Magwraeth - Upbringing Tafodiaith - Dialect Herio - To challengeOs dach chi isio gwybod rhagor am hanes diddorol Sara mi fedrwch chi wrando ar y sgwrs yn llawn ar bodlediad Beti a'i Phobol.Aled Hughes a Grant Peisley Mae Grant Peisley yn chwarae criced i dîm dros 50 oed Cymru er ei fod yn dod o Awstralia'n wreiddiol. Mae o'n byw yng Nghymru ers dros ugain mlynedd erbyn hyn, ac wedi dysgu Cymraeg. Mae criced yn ofnadwy o bwysig i bobl Awstralia - felly sut deimlad ydy chwarae dros Gymru i Grant tybed? Dyma fo'n sgwrsio efo Aled Hughes... Rhyngwladol - International Cwpan y Byd - World Cup Ers yn ddim o beth - Since being a small childBraf clywed Grant yn disgrifio ei hun fel Cymro Newydd yn tydy, a dwi'n siwr bydd o'n falch iawn o
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 10fed 2022
10/05/2022 Duração: 16minBore Cothi Anne Henrot Un o Wlad Belg ydy Anne Henrot ac mi ddechreuodd ddysgu Cymraeg ym 1984 ar ôl bod ar wyliau i Gymru. Mi wnaeth hi deithio ar hyd a lled Cymru pan oedd hi yma - o Gaerdydd i Fangor. Mae hi wedi ymweld â Chasgwent sawl gwaith ac mae wrth ei bodd gyda'r ardal. Dyma Anne yn dweud wrth Shan Cothi sut a pham dechreuodd hi ddysgu Cymraeg.Gwlad Belg - Belgium Yn rhyfeddol - Wonderous Ail-ddechreuais i - I re-commencedAnne Henrot, fuodd yn Nant Gwrtheyrn am bythefnos yn unig, a heblaw am hynny wedi dysgu Cymraeg yn ei chartref yng Ngwlad Belg. Gwych ynde?Aled Hughes ac Ezzati Ariffin Mae E'zzati yn dod o Brunei yn wreiddiol, ond mae hi'n disgrifio ei hun fel "merch Bruneian yng Nghymru" erbyn hyn. Buodd hi'n egluro wrth Aled Hughes mwy am yr ŵyl Hari Raya Aidilffitri sydd yn dathlu diwedd cyfnod ymprydio Ramadan. Gŵyl - Festival Ymprydio - Fasting Am wn i - As far as I know Canolbwyntio - To concentrate Dihuno - Deffro Bennu - Gorffen Dathliad - A celebrationA p
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 3ydd 2022
03/05/2022 Duração: 14minAled Hughes a Vaughn Smith Glanhau carpedi yn Washington, yn yr Unol Daleithiau, ydy gwaith Vaughn Smith. Mae'n gallu siarad 24 iaith yn rhugl, mae o'n hyperpolyglot. Mae'r Gymraeg yn un o'r ieithoedd hynny a dyma fo'n cael sgwrs yn Gymraeg efo Aled Hughes Hyd y cofiaf - As far as I remember Ces i fy swyno - I was enchanted Yn ddiweddarach - Later Brodorol - Native Gwyddeleg - Irish languageVaughn Smith ddysgodd un o ieithoedd brodorol Mecsico oherwydd ei fam, a'r Gymraeg oherwydd cefndir ei dad - ond beth am y 22 o ieithoedd eraill? Anhygoel ynde?Aled Hughes ac Iwan Rheon Bydd lawer ohonoch chi'n cofio'r actor Iwan Rheon am ei berfformiadau fel Ramsay Bolton yn Game of Thrones. Mae o wedi actio yn Gymraeg yn y gorffennol - fo oedd Macsen White yn Pobol y Cwm, ond heb actio yn Gymraeg ers rhai blynyddoedd erbyn hyn. Y newyddion da ydy ein bod ni'n mynd i weld Iwan cyn bo hir ar S4C mewn cyfres newydd sbon 'Y Golau'. Dyma glip ohono fo'n sgwrsio efo Aled HughesCefndir - Background Anhygoel -
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill 26ain 2022
26/04/2022 Duração: 13minBore Cothi - Ciwcymbyr Mae na ddywediad Saesneg 'cool as a cucumber' yn does? Ond beth sydd y tu ôl i'r dywediad hwn tybed? Alison Huw fuodd yn sgwrsio am hyn efo Shan Cothi... Sail wyddonol - A scientific basis Oeri'r gwaed - Cools the blood Ar drothwy - The onset of Cynnwys - To include Dyfrllyd - Watery Unigryw - Unique Si - A rumour Rhesymol - Reasonable Rhwydd - Hawdd Cnwd - CropDyna ni felly - ewch ati i blannu'ch ciwcymbers!Eden Cafodd y band Eden ei ffurfio yn 1996 ac ar ôl cyfnod o beidio perfformio mi ddaethon nhw'n ôl at ei gilydd yng ngwyl fawr Caerdydd, Tafwyl, yn 2016. Cafodd hyn ei ddisgrifio fel 'comeback' y ganrif ar Golwg 360! Roedd Rachael Solomon yn aelod o'r band a hi oedd gwestai Iwan Griffiths fore Sul. Dyma hi'n sôn am y profiad o berfformio yn Tafwyl...Man a man - Might as well Ymateb - Response Symudiadau - Movements Cynulleidfa - Audience Synnu - To be surprised Cysylltu - To connectWww, caneuon newydd gan Eden - rhywbeth i edrych ymlaen
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill 19eg 2022
19/04/2022 Duração: 18minStiwdio Sharon a Saran Ar Stiwdio nos Lun mi gafodd Nia Roberts gwmni'r fam a'r ferch, yr actorion, Sharon a Saran Morgan. Mae Saran newydd ennill gwobr Marc Beeby y 'Best Debut Performance' am ei pherfformiad yn y ddrama radio 'Release' ar Radio 4 yn Ionawr 2021. Gyda'i mam yn y proffesiwn, oedd hi'n syndod bod Saran hefyd wedi dilyn yr un llwybr gyrfa? Gwobr - Award Mewn gwirionedd - In reality Sa i'n credu - Dw i ddim yn meddwl Disgyblaethau - Disciplines Llefain - Crïo Rhwystro - To obstruct Ei hargymell hi - To recommend her Llawfeddyg - Surgeon Bregus - Vunerable O fy herwydd hi - Because of me Cynyrchiadau - ProductionsSaran Morgan yn falch iawn o ddilyn ôl-traed ei mam yn tydy?Aled Hughes a Toda Sgwrs o'r archif sy nesa, o 2020, pan brofodd Toda Ogunbanwo a'i deulu hiliaeth ym mhentre Penygroes, Gwynedd, pan gafodd swastika ei beintio ar ddrws garej eu cartre. Aled Hughes fuodd yn sgwrsio efo Toda. Profi - To experience Hiliaeth - Racism Blin - Angry Derbyniol -