Pigion: Highlights For Welsh Learners

  • Autor: Vários
  • Narrador: Vários
  • Editora: Podcast
  • Duração: 94:41:47
  • Mais informações

Informações:

Sinopse

Y darnau gorau o raglenni BBC Radio Cymru gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. BBC Radio Cymru highlights for Welsh learners.

Episódios

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill 12fed 2022

    12/04/2022 Duração: 14min

    Troi'r Tir Lamb Cam Mae'n dymor wyna a llawer o ffermydd erbyn hyn efo camerâu yn y siediau i gadw llygad ar y defaid a'r ŵyn. Mae Fferm Llwyn yr Eos yn Amgueddfa Werin Cymru, St Ffagan, wedi bod yn ffrydio ffilmiau o'r ŵyn bach yn cael eu geni ers blynyddoedd. Dyma Bernice Parker, sy'n gweithio i'r amgueddfa efo'r hanes... Tymor wyna - Lambing season Amgueddfa Werin Cymru - National Museum of History Ffrydio - To stream Yn gyfrifol am - Responsible for Cadw mewn cysylltiad - Keeping in contact Ymatebion - Responses Ar wahân - Apart Yn llythrennol - Literally Darlledu - To broadcast Gwatsio - Gwylio Byd-eang - WorldwideFelly os dach chi eisiau gweld ŵyn bach yn cael eu geni, dach chi gwybod lle i fynd!Beti a Carren Lewis Mae Carren Lewis yn dod o Benrhyndeudraeth ger Porthmadog yn wreiddiol, ond dreuliodd cyfnod yn byw yn Marmaris yn Nhwrci. Buodd Carren yn sôn wrth Beti George am yr adeg aeth hi i gartref plant yn Ne Ddwyrain

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill 5ed 2022

    05/04/2022 Duração: 15min

    Post Prynhawn - Beryl y Nyrs Ar Post Prynhawn dydd Llun mi gafodd Nia Cerys sgwrs efo Beryl Roberts, nyrs arbennig sy newydd ymddeol yn 55 oed. Cychwynnodd ei gyrfa yn ysbyty Clatterbridge ac mae hi wedi gweithio gyda chleifion Canser ers hynny yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac yn Wrecsam. Dyma i chi flas ar y sgwrs ... Cleifion - Patients Triniaethau - Treatments Y gweddill - The rest Datblygu - To develop Pennaeth - Head Sgileffeithiau - Side-effectsA phob lwc i Beryl ar ei hymddeoliad ynde?Beti a Beks Beks - Rebekah James oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Roedd Beks yn arfer cyflwyno rhaglenni ar Radio Cymru ond erbyn hyn mae hi'n byw yn Hong Kong. Dyma i chi ran o'r sgwrs efo Beti ble mae Becks yn esbonio pam gwnaeth hi werthu ei thŷ, a'i char a rhoi'r gorau i'w gyrfa efo'r BBC ugain mlynedd yn ôl.... Cyflwyno - To present Rhoi'r gorau i - To give up Cwympo - Syrthio Anhygoel - Incredible Delfrydol - Ideal Yn llythrennol - Literally Enfawr - Huge Ysgariad - Divorce

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Mawrth 29ain 2022

    29/03/2022 Duração: 16min

    Gwneud Bywyd yn Haws - Mirain Rhys Am 6 ar nosweithiau Mawrth mae Hanna Hopwood a'i gwesteion yn trafod be sy'n gwneud bywyd yn haws, a'r thema wythnos diwetha oedd teimladau plant. Dyma glip o'r Dr Mirain Rhys sy'n Uwch Ddarlithydd mewn seicoleg ym Mhrifysgol Met Caerdydd, yn esbonio pa mor bwysig ydy cael plant i feddwl yn bositif, a sut mae'n bosib gwneud hynny efo sylwadau cadarnhaol... Uwch Ddarlithydd - Senior lecturer Sylwadau cadarnhaol - Affirmations Ar hap - Randomly Darbwyllo unigolion - To convince individuals Y gwirionedd - The truth Yn ehangach - Wider Cyflawni - To achieve Gallu - Ability Datblygu - To develop Hyblyg - Flexible Ac i glywed rhagor o'r sgwrs yna rhwng Hanna a'r Dr Mirain Rhys mae'n bosib gwrando eto ar ap BBC Sounds drwy chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws. Marchnad Llanbed Ychydig o hanes Marchnad Llanbedr Pont Steffan, neu Llambed, sy nesa. Mae'r farchnad wedi ennill gwobr Y Farchnad Orau yng Nghymru gyda'r Slow Food Awards. Dyma ymateb Jane Langford, un

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Mawrth 22ain 2022

    22/03/2022 Duração: 15min

    Cofio 'Theatr' Byd y Theatr oedd thema Cofio efo John Hardy ac mae byd y theatr Gymraeg wedi newid yn llwyr dros yr hanner canrif diwetha. Dyma Falmai Jones yn cofio sut gychwynnodd ei gyrfa hi a sut arweiniodd hynny at ffurfio'r theatr gymunedol Theatr Bara Caws... Cynulleidfaoedd Audiences Does bosib Surely Perthnasol Relevant Egin A bud Yn gorfforol Physically Sefydlog Settled Gwreiddiau Roots Heb fawr o bres Without much money Atgof Memory Peth a peth This and thatFalmai Jones oedd honna'n cofio dechreuad Theatr Bara Caws.Gwneud Bywyd yn Haws - Naomi Saunders Mae gan Naomi Saunders dros gant o blanhigion yn ei chartref ac mae hi wrth ei bodd yn tyfu ffrwythau, llysiau a phlanhigion cartref, ond sut dechreuodd y diddordeb yma? Planhigion Plants Sbïo Edrych Nain a Taid Mam-gu a Tad-cu Ailgydio To resume Addurno To decorate Naomi Saunders yn fanna yn sôn am ei phlanhigion ar Gwneud Bywyd yn Haws.Aled Hughes ac Elis James Buodd Elis James yn trafod dyfodol yr iaith

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Mawrth 15fed 2022

    15/03/2022 Duração: 14min

    Geraint Lloyd a Ann Cooper Athrawes gelf oedd Anne Lloyd Cooper cyn iddi hi ymddeol ond rŵan mae ganddi fusnes yn gwerthu gwawdluniau , neu 'caricatures'. Roedd hi wedi gwneud un o Geraint Lloyd ac roedd yn falch iawn ohono fo, ond sut a pham wnaeth Ann ddechrau gwneud y lluniau 'ma? Dyma hi'n dweud yr hanes wrth Geraint... Gwawdluniau - Caricatures Graddio - To graduate Degawdau - Decades Gwerth chweil - Worthwhile Tomen o luniau - Heaps of pictures Gweddill - The rest Elfennau - Elements Anne Lloyd Cooper o Gapel Garmon yn Sir Conwy oedd honna yn sôn am ei busnes gwneud gwawdluniau.Stiwdio Shirley Valentine Ar y podlediad wythnos diwetha clywon ni Manon Eames yn sôn am ei haddasiad hi o'r ddrama Shirley Valentine. Mae'r ddrama ar daith o gwmpas Cymru ar hyn o bryd ac mi aeth Branwen Cennard i'w gweld. Shelley Rees-Owen oedd yn cymryd rhan Shirley, sut hwyl gaeth hi tybed? Cafodd Nia Roberts sgwrs efo Branwen ar raglen Stiwdio... Addasiad - Adaptation Camu - To step

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Mawrth 8fed 2022

    08/03/2022 Duração: 21min

    Bore Cothi Ieuan Rhys I le fasech chi'n licio mynd ar fordaith? Mwynhau'r haul 'falle yn y Caribî, neu teithio o gwmpas ynysoedd Môr y Canoldir? Nid dyna oedd ateb y diddanwr Ieuan Rhys i gwestiwn Heledd Cynwal fore Llun... Mordaith - Cruise Diddanwr - Entertainer Gwlad yr Iâ - Iceland Taro deuddeg (idiom) - To strike a chord Twym - Poeth Chwysu - To sweat Trwchus - Thick Tirwedd - Lanscape Oefad - Nofio Trais - Crime Helen Cynwal yn cadw sedd Shan Cothi'n gynnes ac yn holi Ieuan Rhys am ei fordaith ddelfrydol.Bore Sul Non Evans Bore Sul cafodd Iwan Griffiths sgwrs efo'r cyn chwaraewr rygbi Non Evans a sôn i ddechrau am ei magwraeth yn y Fforest ger Abertawe. Mae Non wedi ennill 87 o gapiau dros Gymru a hefyd wedi cystadlu dros ei gwlad mewn Jiwdo, Reslo a chodi Pwysau! Delfrydol - Ideal Cyn chwaraewr - Former player Magwraeth - Upbringing Lan - Fyny Dodi - Rhoi Ro'n i'n dwlu - Ro'n i wrth fy modd Codi pwysau - Weightlifting Ffurflen gais -

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Mawrth 1af 2022

    01/03/2022 Duração: 17min

    Shan Cothi a Geraint Jones Sut mae gwneud y dorth berffaith? Wel roedd hi'n wythnos Real Bread Week wythnos diwetha ac ar Bore Cothi mi gafodd Shan farn y pobydd Geraint Jones. Mae Geraint a'i wraig yn berchen ar fecws yn Llydaw a dyma oedd ganddo fo i'w ddweud wrth Shan... Llydaw - Brittany Burum - Yeast Toes - Dough Lefain - Leaven Crasu - To bake Codi chwant - To whet the appetite Malu - To mill Ffwrn - Popty Troad y ganrif diwetha - Turn of the last century Naws neilltuol - Special qualityGeraint Jones yn fan'na yn codi chwant ar Shan Cothi, ac arnon ni i gyd dw i'n siŵr!Troi'r Tir Sam Robinson Mae'r bugail Sam Robinson yn dod o Rydychen yn wreiddiol ond mae o'n byw ym Mro Ddyfi yng ngogledd Powys erbyn hyn. Fel cawn ni glywed ar Troi'r Tir mae o erbyn hyn yn rhugl yn y Gymraeg ac yn mwynhau cymryd rhan yn y gymuned leol. Bugail - Shepherd Rhydychen - Oxford Athroniaeth - Philosophy Ta waeth - Beth bynnag Anhygoel - Incredible Tafodiaith

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Chwefror 22ain 2022

    22/02/2022 Duração: 15min

    Mali Ann Rees Bore Sul Bore Sul diwetha roedd yr actores Mali Ann Rees yn sgwrsio efo Betsan Powys am ei bywyd a'i gyrfa. Aeth Mali i goleg drama adnabyddus, ond fel clywon ni yn y sgwrs, doedd y cyfnod yn y coleg ddim yn un hawdd iddi hi. Adnabyddus - Enwog Cyfnod - Period (of time) Her - A challenge Lan - Fyny Cyfarwyddwyr - Directors Goroesi - Surviving Sa i'n gwybod - Dw i ddim yn gwybod Ystyried - To consider Ta beth - Beth bynnagDa clywed, ynde, bod penderfyniad Mail i ddal ati yn benderfyniad cywir, ac ei bod yn medru gwneud gyrfa i'w hunan fel actores. Troi'r Tir Mae Dai Jones yn dod o Gapel Bangor yng Ngheredigion yn wreiddiol ond erbyn hyn mae o'n gweithio fel rheolwr fferm Woodlands ger Greenwich yn Llundain. Fferm gymuned yw hon a dyma Dai yn esbonio beth sy'n digwydd ar y fferm ar Troi Tir... Cymuned - Community Cyfer - Acre Gwenith - Wheat Gwirfoddolwyr - Volunteers Gwartheg - Cattle Hwch - Sow Gwair - Hay Syndod - A surp

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Chwefror 15fed 2022

    15/02/2022 Duração: 15min

    Bore Cothi ac Aled Jones Dach chi wedi bod yn gwylio 'The Masked Singer'? Rhaglen ydy hon lle mae pobl enwog yn canu mewn gwisgoedd sydd yn cuddio pob rhan o'r corff, fel bod neb yn medru eu nabod nhw. Tasg y panel oedd dyfalu pwy oedd y tu ôl i'r wisg. Roedd y ffeinal nos Sul ac mi ddaeth y Gymraes Charlotte Church yn ail - hi oedd 'Mushroom'. Ond roedd Cymro yn y gystadleuaeth hefyd, Aled Jones - a fo oedd "Traffic Cone". Bore Mercher ar Bore Cothi mi gaeth Shan Cothi sgwrs efo Aled am y rhaglen...Dyfalu - To guess Yr ail gyfres - The second series Chwyslyd - Sweaty O mam bach - OMG Taith Gadeirlan - The Cathedral TourCYMRU CARWYN Evan James Ac os gweloch chi'r ffeinal - mi roddodd Charlotte Church gliw Cymraeg i'r panel, y gair 'modryb' - ond doedd hynny ddim wedi helpu'r panel o gwbl gan fod neb ohonyn nhw'n deall Cymraeg! Mae Carwyn Jones yn teithio o gwmpas Cymru ac yn rhannu ychydig o hanes y llefydd mae o'n ymweld â nhw efo gwrandawyr Radio Cymru. Nos Iau, mi fuodd o ym Mhontypridd a chael ha

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Chwefror 8fed 2022

    08/02/2022 Duração: 15min

    1. Theo Davies-Lewis a Beti ai Phobol Buodd Beti George yn sgwrsio efo Theo Davies-Lewis y sylwebydd gwleidyddol sydd wedi sgwennu colofnau i'r Spectator, y Times a fo ydy prif sylwebydd gwleidyddol National Wales. Mae o hefyd i'w glywed ar Radio Cymru yn gyson yn trafod materion gwleidyddol a gofynnodd Beti iddo fo sut dechreuodd ei ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth... Sylwebydd gwleidyddol - Political commentator Y chweched - The sixth form Ymgyrch - Campaign I ryw raddau - To an extent Llwyfan cenedlaethol - National stage Senedd ieuenctid - Youth parliament Rhydychen - Oxford Cyfweliadau - Interviews Darlledu - Broadcasting San Steffan - Westminster2. Iwan Griffiths a Delme ThomasMae Theo Davies-Lewis yn brysur iawn fel sylwebydd gwleidyddol ac mae hi'n anodd credu mai dim ond 24 oed ydy o, yn tydy? Bore Sul diwetha Iwan Griffiths oedd yn cyflwyno rhaglen Bore Sul ac mi gafodd o gwmni'r cyn chwaraewr rygbi Delme Thomas a dyma Delme'n sôn am gael ei ddewis i chwarae dros y

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Chwefror 4ydd 2022

    04/02/2022 Duração: 16min

    1. Beti a'i Phobol a Rebecca RobertsBuodd Beti George yn sgwrsio efo'r nofelydd Rebecca Roberts o Brestatyn. Mae hi wedi sgwennu pedair nofel ac wedi ennill sawl gwobr am ei llyfrau. Yn un o'i llyfrau mae'r prif gymeriad efo anabledd ac yn gwisgo coesau prosthetig yn union fel rhai merch yr awdur. Roedd Rebecca wedi bod yn ymgyrchu i gael Llywodraeth Cymru i awdurdodi ysbytai i wario ar goesau a breichiau prosthetig. Dyma hi'n sôn wrth Beti sut cafodd hi wybod bod yr ymgyrch wedi llwyddo...Anabledd - Disability Ymgyrchu - To campaign Llywodraeth Cymru - The Welsh Government Awdurdodi - To authorize Arbenigol - Specialized Byd o wahaniaeth - A world of difference Deisebu - To petition Arbenigedd - Expertise Gwaith ymchwil - Research Dadlau fy achos - Arguing my case Rhoi cynnig arni - To give it a go2. Cymru Carwyn Iau efo Max BoyceRebecca Roberts oedd honna'n sgwrsio gyda Beti George am y gwahaniaeth mae cael coesau prosthetig wedi gwneud i fywyd ei merch. Yn y gyfres Cymru Carwyn mae Carwy

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr y 28ain 2022

    28/01/2022 Duração: 17min

    1. Aled Hughes a Melanie Owen Melanie Carmen Owen, sy'n dod o Aberystwyth yn wreiddiol ond sy'n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn, oedd gwestai Aled Hughes bore Llun diwetha. Melanie fydd yn cyflwyno cyfres newydd o Ffermio ar S4C ond mae hi hefyd wedi mentro i fyd y 'stand-up'. Sut digwyddodd hynny tybed?Caredig Kind Awgrymu To suggest Menywod Merched Beirniadu To adjudicate Yn fuddugol Victorious Profiadau personol Personal experiences Perthnasol Relevant Her A challenge Cynulleidfa Audience Addasu To adapt2. Bore Cothi - Muhammad AliMelanie Owen oedd honna'n esbonio sut dechreuodd hi weithio ym myd 'stand-up'. Ar Ionawr 17 eleni basai Muhammad Ali wedi dathlu ei benblwydd yn 80 oed. Un gafodd cwrdd â'r dyn ei hun, oedd Hywel Gwynfryn yn ôl yn 1966 draw yn LLundain, pan oedd Hywel yn gweithio fel gohebydd i'r rhaglen Heddiw. Roedd Cassius Clay (fel roedd Muhammad Ali ar y pryd) yn Llundain yn barod i focsio yn erbyn Henry Cooper, a chafodd e anrheg arbennig gan Hywel.. Syllu Staring Tawelwch Silence

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr y 21ain 2022

    21/01/2022 Duração: 14min

    1) Aled Hughes - David Bowie Basai David Bowie wedi bod yn 75 oed eleni a chafodd Aled Hughes sgwrs gydag un o'i ffans mwya , Ffion John. Dyma Ffion yn cofio'r tro cynta iddi hi glywed cerddoriaeth Bowie a sut gwnaeth hynny arwain at ei hobsesiwn gyda fe...Y fenga Yr ifancaCynhyrchu To produceYmchwilio To researchLlewygu To faintGofod SpaceDychmygu To imagineYr Ymddiriedolaeth Genedlaethol The National Trust2) Cofio - Ymarfer CorffFfion Jones oedd honna'n sôn am ei hobsesiwn gyda David Bowie.Ymarfer Corff oedd thema Cofio pnawn Sul diwetha, ac roedd cyfle i glywed rhan o sgwrs cafodd Dewi Llwyd yn 2015 gyda Becky Brewerton oedd yn chwarae golff yn broffesiynol. Un o Abergele ydy Becky ac adeg y sgwrs roedd hi newydd ddathlu ei phen-blwydd yn 33 oed Datgelu To revealAndros o ifanc Ifanc iawn Yn y man Mewn munudDdaru o Gwnaeth e 3) Bore Cothi - Y GylfinirEnillodd Becky Brewerton sawl twrnament golff rhyngwladol ac mae hi dal yn ennill ei bywoliaeth ym myd golff. Daniel Jenkins Jones o'r R

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr y 14eg 2022

    14/01/2022 Duração: 17min

    1) Cofio 02/01/22Dyn ni’n aml iawn yn edrych yn ôl ar y flwyddyn flaenorol ddechrau Ionawr, on’d dyn ni? A dyma’n union ddigwyddodd ar Cofio yr wythnos diwetha wrth i nifer o glipiau gwych o’r archif gael eu hail-ddarlledu. Dyma un o’r goreuon, T Glynne Davies yn holi Mrs Hannah Jones am ei hatgofion o gadw gwesty yn y Rhyl am dros 40 o flynyddoedd...Y flwyddyn flaenorol The previous yearAil-ddarlledu To rebroadcastAtgofion MemoriesDdaru WnaethGweithwyr cyffredin Ordinary workersEnwogion CelebritiesDigri DoniolTynnu gwynebau Pulling faces2) Rhaglen Beti a’i Phobol - 09/01/22...a chafodd y clip yna ei recordio’n wreiddiol yn 1982. Buodd Beti George yn sgwrsio gyda Samuel Kurtz, Aelod Ceidwadol Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn Senedd Cymru. Mae'n weithgar iawn gyda'r Ffermwyr Ifanc ac yn cefnogi elusen DPJ. Elusen iechyd meddwl yng Nghymru ydy DPJ sydd yn helpu’r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl mewn ardaloedd gwledig ac mewn amaethyddiaeth. Dy

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr y 7fed 2022

    07/01/2022 Duração: 14min

    Ifan Evans - Diolch o Galon – IOAN TALFRYN – 28/12/21Enwebodd Tony Williams ei diwtor Cymraeg, Ioan Talfryn, i dderbyn Tlws Diolch o Galon ar raglen Ifan Evans. Ond fel ‘Llywelyn’ mae Ioan yn nabod Tony a chawn ni wybod pam hynny ar ôl i Ioan ateb galwad ffôn Ifan… Enwebu To nominateTlws TrophyCyfleus ConvenientCymorth HelpAr flaenau fy nhraed On my toesAstrus AnoddYn barhaol ConstantlyBeti A’I Phobol – 02/01/22 – Kristofer HughesTony, neu, i roi ei enw dosbarth Cymraeg iddo fe, Llywelyn, yn Diolch o Galon i’w diwtor Cymraeg, Ioan Talfryn, ar raglen Ifan Evans.Mae sawl peth diddorol ac anarferol am Kristoffer Hughes. Mae e’n bagan, fe yw Pennaeth Derwyddon Ynys Môn, mae‘n awdur nifer o lyfrau am fytholeg a chwedlau Cymru. Fe oedd gwestai Beti George a dyma i chi flas ar y sgwrs gafodd e gyda Beti.Anarferol UnusualPennaeth derwyddon Chief of the druidsChwedlau FablesSbïwch EdrychwchDistawu To silenceUrdd OrderDefodau

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 31ain 2021

    31/12/2021 Duração: 16min

    01. Aled Hughes – Elfyn JonesDoes dim golygfa well, nac oes, na mynyddoedd Cymru yn wyn o dan eira ar ddiwrnod braf o aeaf. Mae’n demtasiwn mawr i fynd i ddringo’r mynyddoedd bryd hynny, on’d yw hi? Ond cofiwch, tasech chi’n mentro allan mae’r mynyddoedd yn gallu bod yn lefydd peryglus iawn, fel eglurodd Elfyn Jones sy’n gadeirydd Tîm Achub Mynydd Llanberis, wrth Aled HughesYn union ExactlyGorchuddio To coverAnhygoel IncredibleDenu To attractCeudyllau PotholesTwyllodrus DeceptiveAmgylchiadau CircumstancesDyffrynnoedd ValleysYn wirioneddol ReallyOffer Equipment02. Cofio – Nia Roberts a Caryl Parry JonesCyngor da gan Elfyn Jones yn fan’na ar raglen Aled Hughes – byddwch yn ofalus os dych chi am ddringo’r mynyddoedd yn y gaeaf. Mae’n siŵr ein bod yn clywed mwy o ganu adeg y Nadolig nag ar unrhyw adeg y flwyddyn, gyda charolau, caneuon am Sion Corn i’r plant bach a chaneuon pop Nadoligaidd i’r plant mawr! Ond beth sy’n gwneud cân Nadolig dda? Dyma i chi fa

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 24ain 2021

    24/12/2021 Duração: 16min

    01. Gwneud Bywyd yn Haws – Hyder Mewn LliwDillad oedd yn cael sylw Hanna Hopwood ar Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth a chafodd hi sgwrs gyda’r hyfforddwr delwedd Sonia Williams o’r cwmni ‘Hyder Mewn Lliw’… Hyfforddwr delwedd Image coachCynllunio To planCanolbwyntio To concentratePwysigrwydd ImportanceArna chdi Arnot tiCymryd sylw To pay attentionYsbryd SpiritDos CerYr union liw The exact colourPenodol SpecificDrych MirrorCoelio Credu02. Beti a'i Phobol – Mei JonesI glywed mwy o’r sgwrs yna ewch draw i wefan BBC Sounds a chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws, yno hefyd gewch chi glywed cyfweliad gyda Llio Angharad sy’n rhannu cynghorion ar sut i edrych ar ôl ein dillad. Bu farw’r actor, sgriptiwr ac awdur Mei Jones yn ddiweddar, ac i gofio amdano ail-ddarlledwyd sgwrs cafodd Mei gyda Beti George rai blynyddoedd yn ôl. Er bod Mei wedi actio pob math o gymeriadau mae’n debyg mai fel Wali Tomos yn C’mon Midffîld y bydd llawer iawn

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr yr 17eg 2021

    17/12/2021 Duração: 12min

    1. Dros Ginio - Dafydd Iwan ac Alun Ffred Jones Basai’n anodd ffeindio dau frawd mwy enwog yng Nghymru na Dafydd Iwan ac Alun Ffred Jones. Mae Dafydd yn ganwr enwog, ac Alun Ffred yn enwog yn y byd teledu ac, fel Dafydd Iwan, ym myd gwleidyddiaeth hefyd Ond pa mor agos ydy’r ddau ohonyn nhw fel brodyr? Dewi Llwyd gafodd gyfle i holi, ac eglurodd Alun i ddechrau ei fod o’n dipyn ifancach na’r brodyr eraill yn y teulu… Rhyngddyn nhw Between themYr un cylchoedd The same circlesDyn diethr A strangerCadw pellter Keeping a distanceYn achlysurol Occasionally Dotio ar Dwlu arRhyfedda StrangestLlywydd y Blaid President of Plaid CymruGweini To serveWedi drysu Confused2. Bore Cothi – Alwyn Humphreys a West Side Story Dafydd Iwan yn fan’na yn dweud nad oedd e a’i frodyr yn agos iawn at ei gilydd, ond hanes dau deulu oedd yn casáu ei gilydd sydd yn y ddrama ‘Romeo and Juliet’. Ac roedd y nofel, y sioe gerdd a’r ffilm ‘West Sid

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr y 10fed 2021

    10/12/2021 Duração: 17min

    01. Beti – Laura KaradogClip o Beti a’i Phobol ddydd Sul diwetha, a Laura Karadog oedd gwestai Beti. Yn y clip hwn mae Laura’n sôn am yr amser buodd hi’n gweithio yn San Steffan fel profiad gwaith yn rhan o gwrs gradd mewn gwleidyddiaeth Prifysgol Aberystwyth. Fel gwnawn ni glywed cafodd hi brofiadau diddorol iawn yno….San Steffan WestminsterGradd mewn gwleidyddiaeth A politics degreeBreintiedig PrivilegedYn rheolaidd RegularlyErchyll AwfulHurt StupidDinistrio bywydau Destroying livesDiniwed InnocentGrym PowerTu hwnt BeyondHeb os Without doubt02. Bore Cothi – Rhona DuncanYchydig o hanes diddorol Laura Karadog yn fan’na ar Beti a’i Phobol. Oes planhigion gyda chi yn y tŷ? Dych chi’n poeni fyddan nhw’n para dros y gaeaf? Os felly dylai’r tips glywon ni ar Bore Cothi fod o ddiddordeb mawr i chi. Rhona Duncan, sy’n rhedeg siop blanhigion yng Nghaerdydd,

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr y 3ydd 2021

    03/12/2021 Duração: 16min

    01. GBYH - Leisa MereridPam dylen ni ddysgu ioga i’n plant, a sut basai gwneud hyn yn eu helpu? Dyma rai o gwestiynau Hanna Hopwood ar Gwneud Bywyd yn Haws i’r awdures llyfrau ioga i blant, Leisa Mererid . Dyma flas i chi ar y sgwrs ... Yn gynyddol IncreasinglyDyrys ComplexYmwybyddiaeth o’n cyrff Awreness of our bodiesDelwedd corff Body imageHeriau bywyd Life challengesAngor AnchorGorbryder AnxietyIsymwybod SubconsciousMyfyrio To meditateSynhwyrau SensesGorlethu To overwhelm02. Aled Hughes - Dr Sara WheelerLeisa Mererid yn cael ei holi gan Hanna Hopwood. Hefyd ar y rhaglen roedd Nia Parry ac Anwen Gruffydd Wyn yn sôn am sut aeth y ddwy ffrind ati i sgwennu ‘Llyfr Bach Lles’, ac yn ogystal mae Laura Karadog yn sôn am ymarfer ioga. I glywed y sgyrsiau yma ewch draw at BBC Sounds a chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws. Ar raglen Aled Hughes fore Mawrth, clywon ni sgwrs am Gastell Dinas ger Llangollen gyda’r Dr Sara Wheeler, a dechreuodd Aled a Sara sgwrsio d

página 7 de 19