Informações:
Sinopse
Podlediad misol sy'n trafod barddoni gyda'r bwystfil barddol a elwir yn Aneurig (Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury)
Episódios
-
Clera Chwefror 2023
27/02/2023 Duração: 01h27minCroeso i bennod y Mis Bach! Y tro hwn, cawn gyfle am fash-yp cyffrous rhwng Podlediad Clera a Haclediad, sef y podlediad hynaf yn y Gymraeg. Diolch i Sioned Mills a Iestyn Lloyd am ymuno â ni i drafod y posibilrwydd o weld AI yn camu i fyd barddoniaeth Gymraeg drwy raglenni fel ChatGPT a Dall-e. Ydy byd y beirdd yn dod i ben? Neu ydy beirdd am gael help llaw gyda'u crefft, fel y mae'r odliadur yn cynnig help llaw? Hefyd, cawn Orffwysgerdd gan fardd arobryn Cadair Eisteddfod Caerdydd eleni, Non Lewis, a chawn hefyd gwmni Tudur Dylan Jones a Gruffudd Antur. Mwynhewch!
-
Clera Ionawr 2023
25/01/2023 Duração: 01h14minCroeso i bennod mis y Cariadon. Ym mhennod mis Ionawr o clera cawn sgwrs gyda g Golygydd blodeugerdd wych newydd o'r enw 'Cariad, (Cyhoeddiadau Barddas), sef Mari Lovgreen. Cawn hefyd Orffwysgerdd gan Iestyn Tyne o'i gyfrol ddigidol newydd, 'Dileu', y Delicassy gan (Tudur) Dylan a Gruffudd Antur sy'n pwnco gyda ni am Eisteddfod fawreddog Caerwys, 1523 a'i harwyddocâd.
-
Clera Rhagfyr 2022
18/12/2022 Duração: 01h16minNadolig llawen i chi gyd! Ym mhennod mis Rhagfyr o Clera bydd Gruffudd a'i Ymennydd llawn Manion yn trafod llinacahu barddol gyda ni yn y Pwnco, a detholiad o rai o hoff gerddi'r beirdd yn yr Orffwysfa, gyda Steffan Phillips, Mari George, Carwyn Eckley, Lowri Lloyd a Llŷr James. Nadolig dedwydd i chi gyd a diolch i bawb sy'n gwrando ar hyd y flwyddyn.
-
Clera Tachwedd 2022
30/11/2022 Duração: 01h34minDewch mewn o'r gwynt a'r glaw i swatio gyda ni a mwynhau pennod y Mis Du. Yn y rhifyn hwn, byddwn yn Pwnco mewn 2 ran gyda'r Prifardd Llŷr Gwyn Lewis. Cawn hefyd Orffwysgerdd gan Elen Ifan o'i phamffled gyntaf o farddoniaeth, 'Ystlum'. Ac mae'r Delicassy gan Dylan hefyd yn ei ôl, gyda'r Prifardd Tudur Dylan Jones yn canfod perl fach arall i'n diddanu. Hyn a mwy! Mwynhewch
-
Clera Hydref 2022
31/10/2022 Duração: 59minCroeso i bennod mis Hydref 2022 o Clera. y tro hwn cawn sgwrs llawn o ddifyrrwch a dwyster gyda Phrifardd Coron Eisteddfod genedlaethol Tregaron, Esyllt Maelor. Hefyd, cawn flas o gyfrol gyntaf Elinor Wyn Reynolds, 'Anwyddoldeb', gyda'r gerdd wych 'Cysur'.
-
Clera Medi 2022
29/09/2022 Duração: 01h24minYm mhennod mis Medi o bodlediad Clera cawn yr olwg gyntaf ar Gyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Tregaron yng Nghwmni Osian Wyn Owen. Byddwn yn trafod a thafoli mwy ar gynnyrch llên y Brifwyl yn y misoedd i ddod hefyd. Cawn hefyd drafod cyfrol gyntaf o gerddi Osian yn y rhifyn hwn yn ogystal â hel atgofion am gyfnod Tudur Dylan Jones fel Meuryn yr ymryson, wedi iddo gyhoeddi ei ymddeoliad o'r swydd. Cawn hefyd glywed rhai o gerddi buddugol y Brifwyl, o gywydd Geraint Roberts i'r Soned a enillodd Gadair Adran y Siaradwyr Newydd i Wendy Evans.
-
Clera'n Fyw o Steddfod Tregaron 2022
07/08/2022 Duração: 01h09minClera'n fyw o Lwyfan y Llannerch yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 yn Nhregaron. Diolch i'r gwesteion gwych, Buddug Roberts, Jo Heyde a Llio Maddocks am eu cyfraniadau difyr a doeth i bennod a recordiwyd ar sadwrn ola'r Eisteddfod yng nghwmni Gruffudd Antur ac Aneurig.
-
Clera Gorffennaf 2022
29/07/2022 Duração: 01h06minCroeso i rifyn rhagflas y Brifwyl! Gyda chyfraniadau difyr a doeth gan Jo Heyde (trafod llyfrau barddol llyfr y flwyddyn), Anwen Pierce (Cywydd Croeso yr Eisteddfod), Gruffudd Eifion Owen a Iestyn Tyne yn ymateb i sylwadau gan Eifion Wyn a llawer mwy.
-
Clera Mehefin 2022
29/06/2022 Duração: 01h34minCroeso i bennod mis Mehefin o Clera! Cawn sgwrs gyda Phrifardd yr Urdd, Ciaran Eynon am ei gerdd arobryn ar y testun 'Diolch' yn ogystal â sgwrs gyda'n Posfeistr, Gruffudd Antur am y gyfrol fawreddog newydd, 'A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes gan Daniel Huws. Hefyd, mae llinell gynganeddol ddamweiniol y mis yn ei hôl! Hyn oll yn ogystal â Delicassy gan Dylan a Diweddgan gan Jo Heyde, sef ei cherdd fuddugol yng Nghadair Eisteddfod Llandudoch.
-
Clera Mai 2022 - Huw Morys, 'Eos Ceiriog'
25/05/2022 Duração: 01h20minCroeso i rifyn mis Mai o Clera. Rhifyn arbennig yw hwn sy'n trafod a dathlu bywyd a gwaith y Bardd o Ddyffryn Ceiriog, Huw Morys. Mwynhewch
-
Clera Ebrill 2022
28/04/2022 Duração: 01h23minCroeso i bennod mis Ebrill o bodlediad barddol Clera. Cawn gip-wrandawiad ar lansiad cyfrol newydd Menna Elfyn wrth i Elinor WYn Reynolds holi;r bardd yng Nghaerfyrddin. Ifor ap Glyn sy'n trafod ei brosiect olaf fel Bardd Cenedlaethol Cymru, 'Sudoku Iaith' ac Emyr 'Y Graig' Davies sy'n cynnig Gorffwysgerdd i ddiolch am Sgwîdji! Hyn, a llawer iawn mwy, heb anghofio cerdd yn Almaeneg gan Dani Schlick.
-
Clera Mawrth 2022
30/03/2022 Duração: 01h11minMae'r gwanwyn wedi dod â phennod newydd o Clera yn ei sgil. Cyfrniadau gwych a difyr gan Kate Wheeler yn ein heitem newydd sef, 'Gwrando Awen ein Gwradawyr', dwy orffwysgerdd deimladwy gan y Prifardd Dafydd John Pritchard, Delicassy gan (Tudur) Dylan, y Pos a llawer mwy gan Gruffudd Antur ac Aneurig.
-
Clera Chwefror 2022
28/02/2022 Duração: 01h21minMae eisiau beirdd ar y mis bach! (Mererid Hopwood a'i cant). Croeso i bennod mis Chwefror o Clera lle cawn gwmni Gwilym Bowen Rhys, Twm Morys a Gwyneth Glyn gyda chyfraniadau hefyd gan Sian Northey (Cerdd o'r gyfrol a olygwyd ganddi a Ness Owen, A470), Tudur Dylan a'n Posfeistr hollwybodus Gruffudd Antur. Mwynhewch!
-
Clera Ionawr 2022
31/01/2022 Duração: 01h08minBlwyddyn newydd ddaa chroeso i bennod gyntaf Clera yn 2022! Y mis hwn, yng nhgwmni Aneurig a Gruffudd Antur cawn Orffwysgerdd gan Jo Heyde, cyfraniadau am eu troion cyntaf yn cystadlu ar y Talwrn fel aelodau o dimau newydd (nid o reidrwyd yr ymddangosiadau cyntaf ar y Talwrn) gan Megan Elenid Lewis, Matthew Tucker a Manon Wyn Davies. Y Delicassy gan Dylan, Llinell Gynganeddol Dddamweiniol y Mis a llawer mwy!
-
Clera Rhagfyr 2021
20/12/2021 Duração: 01h13minNadolig llawen i chi gyd gan griw Clera. Mwynhewch y bennod ola o'r flwyddyn hon, sy'n cynnwys sgyrsiau difyr gyda Bardd Plant Cymru 2021-23, Casi Wyn a'r Prifardd Rhys Iorwerth am ei gyfrol newydd, Cawod Lwch. Hefyd, cerddi hyfryd gan Ana Chiabrando Rees a Geraldine Macburney Jones o Batagonia.
-
Clera Tachwedd 2021
29/11/2021 Duração: 01h34minCroeso i bennod y Mis Du o Clera. Y tro hwn cawn longyfarch Carwyn Eckley ar ei gamp yn ennill Cadair yr Urdd Dinbych 2020, gan hefyd lognyfarch Ianto Jones ac An Chabrando Rees ar gipio Cadair y ffermwyr Ifanc a Chadair Eisteddvod Trevelin. Cawn hefyd gyfraniad gwych iawn gan Gruffudd Eifion Owen am y vers libre cyngaenddol a chwmni ein Posfeistr hoff, Gruffudd Antur. Heb sôn am ddiweddgan gan Llion Jones i Gareth Bale.
-
Clera Hydref 2021 - Pennod y Pum Mlwyddiant!
29/10/2021 Duração: 01h19minCroeso i bennod sy'n dathlu pum mlwyddiant Clera! Diolch o galon i'n holl wrandawyr selog am barhau i'n cefnogi dros y pum mlynedd. Yn y bennod hon mae gyda ni sgwrs gyda'n noddwr, Llŷr Hael. Blas o Ymryson Gwyl Gerallt a thrafodaeth Cymdeithas Ceredigion ar y cyfansoddiadau AmGen, cerdd arbennig gan y Prifardd Osian Rhys Jones a llawer mwy, Diolch i Alaw Griffiths am y llun ar glawr y bennod.
-
Clera Medi 2021
30/09/2021 Duração: 01h40minCroeso i'r bennod hiraf yn ein hanes! Ond gyda chymaint i'w gynnwys, dyna'r unig ffordd i wneud teilyngdod â chyfraniadau Anwen pierce, Alaw Mai Edwards, Hywel Griffiths, Sara Louise Wheeler, Gruffudd Antur ac Osian Bonc! Cawn felly adolygiad o Gyfansoddiadau Amgen 2021, Sgwrs ddifyr gyda Sara ac Osian am lwyfaniad arbennig sydd ar y gweill o waith barddol a llawer llawer mwy! Mwynhewch.
-
Clera Awst 2021 - Cadwyn o Orffwysgerddi
21/08/2021 Duração: 01h15minPennod wahanol o Clera sy'n cynnwys blwyddyn gron o Orffwysgerddi o'r pum mlynedd diwethaf, ers inni sefydlu Clera ym mis Hydref 2016. Mwynhewch!
-
Clera Gorffennaf 2021
20/07/2021 Duração: 01h35minYm mhennod Mis Gorffennaf mae gennym deyrnged i'r diweddar David R. Edwards, neu Dave Datblygu. Hefyd cawn gerdd deyrnged iddo gan Ifor ap Glyn a chyfraniadau arbennig gan Lleucu Siencyn a Nerys Williams. Cawn sgwrs yn ogystal gyda Nia Morais a chwmni ein Posfeistr Gruffudd Antur. Hyn a llawer mwy.