Informações:
Sinopse
Podlediad misol sy'n trafod barddoni gyda'r bwystfil barddol a elwir yn Aneurig (Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury)
Episódios
-
Clera Tachwedd 2019
27/11/2019 Duração: 01h13minCroeso i bennod y Mis Du! Yn y rhifyn hwn mae gyda ni sgwrs rhwng y ddau Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd a Jim Parc Nest, Gorffwysgerdd Farfog gan Iwan Rhys, Talwrn y Beirdd Ifanc, Pos Gurffydd a'i obennydd miniog a llawer mwy!
-
Clera Hydref 2019
31/10/2019 Duração: 54minYn y bennod hon o Clera cawn sgwrs rhwng Philippa Gibson a Thudur Dylan Jones yn fyw o Wyl Gerallt, Llanrwst(sef cynhadledd flynyddol Barddas). Hefyd, rhan 1 o gyfres newydd sbon Talwrn y Beirdd Ifanc a cherdd yr Orffwysfa arbennig awn wedi ei datgan gan Rhys Iorwerth a Karen Owen. Hyn oll a llawer mwy!
-
Clera Medi 2019
28/09/2019 Duração: 01h14minRhifyn adladd Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst gyda'n gwesteion arbennig Richard Owen a Phil Davies. Hefyd mae'r Posfeistr, Gruffudd Antur yn camu i'r adwy yn sgil absenoldeb Nei. Daw cerdd yr Orffwysfa gan y Prifardd Tudur Hallam. Hefyd, Talwrn y Beirdd Ifanc - detholiad o ornest arbennig rhwng Bwystfilod Bro Myrddin a Piwmas y Preseli, gyda'r Meuryn ei hun, Ceri WYn Jones yn tafoli'r tasgau. Hyn oll a mwy!
-
Clera Yn Fyw o'r Eisteddfod
19/08/2019 Duração: 51minPennod fyw o'r Babell Lên gyda'n gwesteion arbennig, Lleucu Siencyn(Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru), Ein Posfeistr Gruffudd Antur a'r Prifardd-Plant Gruff Sol. Diolch i Sion Tomos Owen am y llun o Aneurig ar y clawr.
-
-
Clera Mehefin 2018
28/06/2019 Duração: 01h14minSgwrs gyda Bardd Plant Cymru - Gruff Sol. Sgwrs fyw o noson Cicio'r Bar yn Aberystwyth rhwng Gruffudd Antur ac Iwan Huws sydd newydd gyhoeddi ei gyfrol gyntaf o gerddi. Gorffwysgerdd gan Iwan Huws hefyd! Sgwrs hefyd o seremoni llyfr y flwyddyn gyda Sion Tomos Owen a hynt a helynt Gouel Broadel ar Brezhoneg, sef Eisteddfod y Llydawyr. Hyn oll, y pos a mwy!
-
Clera Mai 2019
30/05/2019 Duração: 01h15minYn y bennod hon rydyn ni'n pwnco am y ffenomen hynod Gymraeg a Chymreig o ddiffyg teilyngdod mewn eisteddfodau. Cawn orffwysgerdd gan Judith Musker-Turner. Awn i Lydaw i drafod cynganeddu yn
-
Clera Ebrill 2019
26/04/2019 Duração: 01h12minCroeso i bennod mis Ebrill o Clera! Y tro hyn rydyn ni'n dathlu pen-blwydd arbennig y prifardd-archdderwydd Jim Parc Nest, yn parhau i drafod y Stomp gyda rhai o drefnwyr y nosweithi poblogaidd dros y blynyddoedd, Ceri Anwen James a Leusa Llewelyn, ry'n ni hefyd yn fyw yn lansiad cyfrol y Prifardd Idris Reynolds, yn cyfweld a chynganeddwr o Sheffield yn Llydaw sef Felix Parker Price, y pos a llawer mwy!
-
Clera Mawrth 2019
29/03/2019 Duração: 01h12minTrafofaeth bwnco ar y Stomp, ymddeoliad y Prifardd Llion Jones o Twitter, teyrnged i'r canwr Llydwaeg Yann-Fanch Kemener a llawer llawer mwy o'r eitemau barddol arferol er eich difyrrwch.
-
Clera Chwefror 2019
23/02/2019 Duração: 01h08minCroeso i bennod y mis bach! Y tro hwn rydyn ni'n pwnco am y Talwrn a'r Ymryson, gyda chyfraniadau gan yr archdderwydd Myrddin ap Dafydd a'r Meuryn Ceri Wyn Jones(sori am ansawdd y sain!). Caryl Bryn sy'n datgan cerdd yr orffwysfa a phan awn draw i Lydaw a'r podlediad cawn wybod mwy am dairth ryfeddol Kervarker i Eisteddfod y Fenni, 1838. Hyn a llawer mwy!
-
Clera Ionawr 2019
29/01/2019 Duração: 01h10minBlwyddyn newydd dda! Dyma gamennig barddol i'ch paratoi chi at flwyddyn ddifyr arall. Ein Postfeistr, Gruffudd Antur yw bardd yr Orffwysfa y ,is hwn ac fe gawn hefyd galennig gan Grug Muse wrth iddi hi edrych ymlaen at y flwyddyn farddol. Hyn, Pwnco gydag Eurig am y bardd Huw Morys, Englynion Gwyddonol gan y Prifardd Hywel Griffiths, dysgu am y bardd Llydaweg Anjela Duval a llawer mwy.
-
Clera Rhagfyr 2018
23/12/2018 Duração: 01h09minNadolig llawen i chi gyd! Pennod lawn dop arall, gydag eitem arbennig am holl gyfrolau barddol y flwyddyn yng nghwmni'r bardd, yr artist a'r cerddor Iestyn Tyne. Sgwrs gydag Eurig ar ei awdl a ddaeth mor agos at gipio Cadair Caerdydd, eitem arall am farddoni yn Llydaweg, Cerdd yr Orffwysfa gan y Prifardd Idris Reynolds, Pos Gruffudd a'i ymennydd miniog a llond sach Santa o bethau difyr eraill.
-
Clera Tachwedd 2018
28/11/2018 Duração: 01h06minYm mhennod y mis Du mae gyda ni gerdd newydd sbon gan y bardd a'r artist Manon Awst wedi ei recordio ym Marclodiad y Gawres. Sgwrs ddifyr gyda Phrifardd Cadeiriol Eisteddfod Caerdydd, Gruff Sol, eitem ar gynganeddu Llydaweg, pos Gruffudd Antur a llawer mwy!
-
Clera Hydref 2018
31/10/2018 Duração: 01h06minYn hwyr iawn yn ystod mis Hydref, ar ddiwrnod Calan Gaeaf, dyma bennod newydd o Clera. Y tro hwn mae gyda ni westai arbennig, sef y bardd Ifan Prys a hefyd adolygiad o'r Cyfansoddiadau a'r Beirniadaethau Eisteddofd Genedlaethol Caerdyddgyd gyda'r Prifardd Hywel Griffiths ac Elena Gruffudd. Mwynhewch!
-
Clera Awst 2018
17/08/2018 Duração: 48minPennod fyw o’r Babell Lên gyda’n gwesteion arbennig, prifweithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, prifardd y Gadair Gruffudd Eifion Owen, y gomediwraig Beth Jones, ein posfeistr Gruffudd Antur a bardd yr orffwysfa y prifardd Rhys Iorwerth. Sgyrsiau, gemau a giamocs!
-
Clera Gorffennaf 2018
17/07/2018 Duração: 01h05minFfarwel i Ffostrasol! Dros y misoedd diwethaf bu Aneurig yn cwrdd yn Nhafarn Ffostrasol er mwyn recordio Clera. Gyda Nei yn mynd i fyw yn Llydaw am flwyddyn o fis Awst ymlaen, dyma'r cyfarfyddiad olaf yn Ffostrasol am sbel. Dyma, felly, bennod arbennig o Clera yn Nhafarn FFostrasol, yng nghwmni rhai o feirdd Tim Talwrn Ffostrasol, heb anghofio'r pos, llinell gynganeddol ddamweiniol y mis a mwy.
-
Clera Mehefin 2018
18/06/2018 Duração: 50minPennod hafaidd ei naws gyda cherdd gan y Prifardd mererid Hopwood, sgwrs bwnco yn trafod beirdd cymraeg oddi cartref, holi enillydd Cadair yr Urdd Osian Owen sgwrs gyda'r bardd Morgan Owen, pos Gruffudd Antur, llinell gynganeddol ddamweiniol gynganeddol y mis, newyddion a mwy
-
Clera Mai 2018
25/05/2018 Duração: 01h14minPennod wirioneddol lawn dop! Y mis hyn rydyn ni'n clywed gan un o feirniaid Llyfr y Flwyddyn, Beti George, yn holi'r Prifardd Alan LLwyd, yn cael cerdd newydd sbon yn Yr Orffwysfa gan y Prifardd a'r Bardd Cenedlaethol Ifor ap Glyn, hefyd yn holi Elis Dafydd am waddol Gwyn Thomas, heb son am bos Griffin a'i Ymennyn Miniog, llinell gynganeddol y mis, hanes cyfrol dobarth barddoni Idris Reynolds a llawer mwy! Diolch i Betsan Haf Evans (cwmni Celf Calon) am y llun o Alan Llwyd sydd ar glawr y bennod.
-
Clera Ebrill 2018
29/04/2018 Duração: 58minPennod arbennig am ei bod yn cynnwys cyfraniad gan rai o leisiau ac enwau enwocaf y byd canu Cymraeg: Huw Chiswell, Rhys Meirion, Elin Fflur, Twm Morys, Gwyneth Glyn a Cleif Harpwood. Hefyd, mae cerdd yr orffwysfa yn un newydd sbon gan y Prifardd dwbwl Alan Llwyd. Hyn oll, y pos gan Gruffudd Antur, llinell gynganeddol ddamwiniol y mis, y newyddion a mwy!