Pigion: Highlights For Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 27ain o Fedi 2022
- Autor: Vários
- Narrador: Vários
- Editora: Podcast
- Duração: 0:14:24
- Mais informações
Informações:
Sinopse
Radio’r Cymry Mae hi bron yn ganrif ers i'r geiriau Cymraeg cyntaf gael eu clywed ar y radio. Yn y gyfres newydd, Radio’r Cymry, mae Hywel Gwynfryn yn edrych ar raglenni, digwyddiadau â'r cymeriadau sydd wedi gwneud Radio Cymru yr hyn ydy o heddiw. Yn 1935 daeth Sam Jones yn Bennaeth y BBC ym Mangor ac roedd hi’n ddechrau ar gyfnod cyffrous iawn yn hanes Radio Cymraeg. Dyma ei ysgrifenyddes, Morfudd Mason Lewis, yn sôn am y dyddiau hynny..... Canrif - Century Cyfres - Series Pennaeth - Head Parchu - To respect Peirianwyr - Engineers Tyrfa - A crowd Rhaglenni byw - Live programmes Pennill - A verse A ddeuai - Fasai’n dodAled Hughes Aeth Aled Hughes draw i Forfa Nefyn ym Mhen Llŷn i gwrdd â Reuben Hughes, sy’n bencampwr reslo braich! Mae o’n aelod o glwb reslo braich Roar yn Llandybie, Sir Gaerfyrddin, ac mae o newydd ennill ei gystadleuaeth reslo braich gynta. Pencampwr - Champion Am sbort - For fun Yr amser yn brin - Time was scarce Penderfynol - Determined Diogelwch - Safety Poendod - A worry Gwarcho