Pigion: Highlights For Welsh Learners

Podlediad Pigion y Dysgwyr 5ed o Orffennaf 2022

Informações:

Sinopse

Dei Tomos Gwilym OwenDw i’n siwr ein bod ni i gyd yn gwybod am Harri’r Wythfed a’i chwe gwraig, ond ar raglen Dei Tomos clywon ni hanes bonheddwr o ogledd Cymru, Edward Gruffydd, oedd fel Harri wedi priodi sawl gwaith, a hynny pan oedd Harri’n frenin. Un o Stad y Penrhyn ger Bangor oedd Edward a dyma i chi ran o sgwrs cafodd Dei amdano efo’r darlithydd Gwilym Owen o Brifysgol Bangor...Bonheddwr - GenltemanMewn gwirionedd - In realityFawr hŷn - Hardly any olderPwys mawr - Great pressureCyfoethocach - RicherCefnog - Well-offDylanwadu - To influenceTystiolaeth - EvidenceDychwelyd - To returnI’r neilltu - To one sideDros Ginio Elfyn ac AlunDoedd na ddim sôn bod Edward wedi cael yr un problemau cyfreithiol a gafodd Harri o ran priodi sawl gwaith – ond hanes ddiddorol ynde? Dau frawd o fyd y gyfraith oedd gwesteion Dewi Llwyd ar Dros Ginio, y bargyfreithiwr a’r gwleidydd Elfyn Llwyd a’i frawd y plismon Alun Hughes. Roedd eu tad yn blismon, felly roedd y gyfraith yng ngwaed y ddau! Elfyn, y brawd mawr, sy’n siarad