Pigion: Highlights For Welsh Learners

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mawrth 29ain 2022

Informações:

Sinopse

Gwneud Bywyd yn Haws - Mirain Rhys Am 6 ar nosweithiau Mawrth mae Hanna Hopwood a'i gwesteion yn trafod be sy'n gwneud bywyd yn haws, a'r thema wythnos diwetha oedd teimladau plant. Dyma glip o'r Dr Mirain Rhys sy'n Uwch Ddarlithydd mewn seicoleg ym Mhrifysgol Met Caerdydd, yn esbonio pa mor bwysig ydy cael plant i feddwl yn bositif, a sut mae'n bosib gwneud hynny efo sylwadau cadarnhaol... Uwch Ddarlithydd - Senior lecturer Sylwadau cadarnhaol - Affirmations Ar hap - Randomly Darbwyllo unigolion - To convince individuals Y gwirionedd - The truth Yn ehangach - Wider Cyflawni - To achieve Gallu - Ability Datblygu - To develop Hyblyg - Flexible Ac i glywed rhagor o'r sgwrs yna rhwng Hanna a'r Dr Mirain Rhys mae'n bosib gwrando eto ar ap BBC Sounds drwy chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws. Marchnad Llanbed Ychydig o hanes Marchnad Llanbedr Pont Steffan, neu Llambed, sy nesa. Mae'r farchnad wedi ennill gwobr Y Farchnad Orau yng Nghymru gyda'r Slow Food Awards. Dyma ymateb Jane Langford, un