Pigion: Highlights For Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Chwefror 15fed 2022
- Autor: Vários
- Narrador: Vários
- Editora: Podcast
- Duração: 0:15:39
- Mais informações
Informações:
Sinopse
Bore Cothi ac Aled Jones Dach chi wedi bod yn gwylio 'The Masked Singer'? Rhaglen ydy hon lle mae pobl enwog yn canu mewn gwisgoedd sydd yn cuddio pob rhan o'r corff, fel bod neb yn medru eu nabod nhw. Tasg y panel oedd dyfalu pwy oedd y tu ôl i'r wisg. Roedd y ffeinal nos Sul ac mi ddaeth y Gymraes Charlotte Church yn ail - hi oedd 'Mushroom'. Ond roedd Cymro yn y gystadleuaeth hefyd, Aled Jones - a fo oedd "Traffic Cone". Bore Mercher ar Bore Cothi mi gaeth Shan Cothi sgwrs efo Aled am y rhaglen...Dyfalu - To guess Yr ail gyfres - The second series Chwyslyd - Sweaty O mam bach - OMG Taith Gadeirlan - The Cathedral TourCYMRU CARWYN Evan James Ac os gweloch chi'r ffeinal - mi roddodd Charlotte Church gliw Cymraeg i'r panel, y gair 'modryb' - ond doedd hynny ddim wedi helpu'r panel o gwbl gan fod neb ohonyn nhw'n deall Cymraeg! Mae Carwyn Jones yn teithio o gwmpas Cymru ac yn rhannu ychydig o hanes y llefydd mae o'n ymweld â nhw efo gwrandawyr Radio Cymru. Nos Iau, mi fuodd o ym Mhontypridd a chael ha