Pigion: Highlights For Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr 29ain Ionawr 2020
- Autor: Vários
- Narrador: Vários
- Editora: Podcast
- Duração: 0:16:07
- Mais informações
Informações:
Sinopse
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … OWAIN TUDUR JONES Y cyn bêl-droediwr Owain Tudur Jones oedd gwestai Lisa fore Sul. Enillodd Owain saith cap pêl-droed dros Gymru ac mae e nawr yn sylwebu ar gemau pêl-droed ar ran S4C. Ond am ei ddiddordeb mawr mewn dringo mynyddoedd Eryri buodd e’n sôn wrth Lisa. Dyma i chi flas ar y sgwrs… Sylwebu - To commentateSbïo - EdrychGwerthfawrogi - To appreciateGolygfeydd - ViewsHer - A challengeCuriad y galon - The heartbeatCynyddu - IncreasingDatblygu - DevelopsAdnabyddus - Well knownYsfa - Urge Gofal biau hi - Take careTRYSTAN AC EMMA Owain Tudur Jones oedd hwnna’n sôn am ei hoffter o fynydda. Sut mae gwneud y baned berffaith? Dyma farn Eirlys Smith o Gaffi Paned Pinc yn Llangadfan ynm Mhowys ar raglen Trystan ac Emma…Llaeth - LlefrithTywallt - To pourYmdrech - EffortLlesol - BeneficialDail te - Tea