Pigion: Highlights For Welsh Learners

Pigion y Dysgwyr Tachwedd 6ed 2020

Informações:

Sinopse

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Shelley a Rhydian - Sioe Sadwrn Roedd yr actor Ieuan Rhys yn astudio drama yn y coleg pan gafodd ei gyfle cynta i actio’n broffesiynol ac yn fuan iawn dechreuodd actio rhan Sarjant James yn Pobol y Cwm a buodd e’n actio’r rhan hwnnw am flynyddoedd maith. Fe oedd un o westeion Shelly a Rhydian ar y Sioe Sadwrn a dyma fe’n esbonio sut cafodd e ei swydd actio gynta… Cwpla - To finishLan llofft - UpstairsCyfweliadau - InterviewsCwrdd â - To meet Pennod - EpisodeParodd - It lastedHuw Stephens a Huw Chiswell - Sioe Frecwast Radio Cymru 2 Yr actor Ieuan Rhys oedd hwnna’n sôn am sut cafodd o’r cyfle i actio ar Pobol y Cwm. Mae Huw Stephens yn mynnu bod ei westeion yn ateb ei gwestiynau drwy roi’r gair Cocadwdl o flaen yr ateb. Dw i’n siŵr ei bod hi’n ddigon anodd i gofio’r holl atebion yes/no yn Gymraeg heb y dasg y