Pigion: Highlights For Welsh Learners

Pigion y Dysgwyr 16eg Hydref 2020

Informações:

Sinopse

Aled Hughes Mae’r gân Bohemian Rapsody gan y band Queen yn enwog iawn ond roedd rhai yn y band eisiau galw’r gân yn Mamma. Fasai’r gân wedi bod mor boblogaidd gyda’r enw hwnnw tybed? Dyna buodd Geraint Cynan yn ei drafod gyda Aled Hughes a dyma i chi flas ar y sgwrs… Mymryn - A littleCrybwyll - To mentionCydio - To graspCrynhoi’r cyfnod - To summarise the periodYn ddiamheuol - Without doubtMewn un ystyr - In one respectUchafbwynt - HighlightCyfarwyddwr - DirectorRhyddhau - To release Gweddu - To suitDros Ginio Geraint Cynan oedd hwnna’n trafod Bohemian Rhapsody ar raglen Aled Hughes. Roedd Marathon Llundain yn dathlu ei benblwydd yn bedwar deg eleni ond ras wahanol iawn oedd i’w chael penwythnos cyntaf Hydref eleni. Roedd y rhedwyr elitaidd yn rhedeg yn y ddinas fel arfer, ond roedd rhaid i bawb arall redeg ras rithiol. Un o’r rhai gymerodd ran yn y ras rithiol oedd Paul Williams o Lanfihangel y Creuddyn yng Ngheredigion a dyma fe’n siarad am y profiad gyda Dewi Llwyd..