Pigion: Highlights For Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 13eg 2020
- Autor: Vários
- Narrador: Vários
- Editora: Podcast
- Duração: 0:16:10
- Mais informações
Informações:
Sinopse
Doedd dim Eisteddfod Genedlaethol eleni ond mi fyddwn ni’n edrych yn ôl ar Ŵyl AmGen Radio Cymru ar Pigion yr wythnos ymaMae hi’n draddodiad i gael cywydd croeso i groesawu’r Eisteddfod i’r ardal bob blwyddyn. Wrth gwrs mae pethau’n wahanol eleni ond ysgrifennodd y bardd Ceri Wyn Jones gywydd croeso i’r Eisteddfodd AmGen a dyma hi i chi…Amgen AlternativeBardd PoetCywydd Croeso A poem to welcome the EisteddfodCerdd PoemSbort FunAdeg anghyffredin Unusual periodEr nad oedd yr Eisteddfod yn debyg i’r un dyn ni wedi arfer â hi , mae’r dysgwyr yn dal i gael lle pwysig iawn yn yr Eisteddfod AmGen. Dros y penwythnos cyhoeddodd Hywel Gwynfryn a Rhiannon Lewis enillydd Tlws Dysgwr y Flwyddyn a dyma i chi Dona Lewis o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn darllen y feiriniadaeth ar ran y tri beirniad…Cyhoeddi To announceBeirniadaeth AdjudicationEin hysbrydoli Inspiring usRownd derfynol FinalEu hymdrechion Their efforts