Pigion: Highlights For Welsh Learners

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 28ain 2020

Informações:

Sinopse

Myrddin ap Dafydd ar Aled HughesDw i’n sîwr bod y rhan fwya ohonon ni wedi dysgu geirfa newydd un ai yn y dosbarth, wrth ddarllen neu, wrth gwrs, drwy wrando ar Radio Cymru. Ond mae na nifer o eiriau tafodieithiol wnawn ni ond eu clywed drwy ymweld ag ardaloedd arbennig yng Nghymru. Dych chi wedi clywed y gair ‘ “wilibowan” a “sbensh” er enghraifft? Dyma oedd gan Myrddin ap Dafydd i’w ddweud am hen eiriau’r Gymraeg wrth Aled Hughes yr wythnos hon. Tafodieithol Dialectal Wedi gwirioni Really likedEhangach Wider Y fraint The privilegeYn hanu o Hails fromYn y bôn EssentiallyMoethus Luxurious Cogio PretendingYn glymau In KnotsFfashiwn beth Such a thing Catrin Gerallt a Hannah Daniel - Dau Cyn Dau ar Dros GinioMam a merch o Gaerdydd fuodd yn cadw cwmni i Dewi Llwyd ar Dau Cyn Dau yr wythnos yma – sef Catrin Gerallt a Hannah Daniel. Mae Catrin Gerallt yn newyddiadurwraig brofiadol iawn sydd wedi gweithio