Beti A'i Phobol

Dr Carwyn Jones

Informações:

Sinopse

Dr Carwyn Jones yw gwestai Beti George.Mae'n Athro mewn moeseg chwaraeon yn gweithio yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd - ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.Ei brif ddiddordebau ymchwil yw moeseg chwaraeon yn gyffredinol a'r berthynas rhwng chwaraeon ac yfed alcohol yn arbennig, ac mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau yn y Gymraeg a'r Saesneg sy'n ymdrin â phynciau sy'n amrywio o ddosbarthiad yn y Gemau Paralympaidd, rheolau cymhwysedd cenedlaethol, cydraddoldeb rhwng y rhywiau, hiliaeth a thyfu cymeriad drwy chwaraeon.Mae'n wreiddiol o Ddinbych ond bellach yn byw yn Abergwyngregyn gyda'i wraig a'i fab.Mae dau beth tyngedfennol wedi digwydd ym mywyd Carwyn - rhoi'r gorau i yfed alcohol a chael tiwmor ar ei ymennydd. Mae'n trafod yn agored gyda Beti y cyfnodau anodd yma yn ei fywyd, ac yn dewis pedair cân sydd yn cysylltu â gwahanol gyfnodau o'i fywyd.