Pigion: Highlights For Welsh Learners

  • Autor: Vários
  • Narrador: Vários
  • Editora: Podcast
  • Duração: 97:15:54
  • Mais informações

Informações:

Sinopse

Y darnau gorau o raglenni BBC Radio Cymru gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. BBC Radio Cymru highlights for Welsh learners.

Episódios

  • Pont: Alanna Pennar Davies

    11/02/2025 Duração: 23min

    Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Alanna Pennar Davies.Cerddor llawrydd yw Alanna Pennar Davies. Yn wreiddiol o dref Sterling yr Alban, mae hi bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Dechreuodd ddysgu’r Gymraeg o ddifri yn 2020 yn ystod y cyfnod clo. Cyrhaeddodd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn 2024. Erbyn mae hi wedi sefydlu cwmni creu adnoddau i ddysgwyr sef Pennarbapur

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr, Chwefror 4ydd, 2025

    04/02/2025 Duração: 33min

    Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Ionawr yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Geirfa ar gyfer y bennod:-Clip 1 Cyfres: Series Cychwynnol: Initial Pennod: Episode Andros o gyffrous: Very exciting Datgelu: To reveal Llywio: Presenting Cyngor: Advice Gweithgareddau: Activities Heb os nac oni bai: Without doubtClip 2 Cynhesu, neu C’nesu, i fyny: Warming up Asgellwr: Winger Eisteddle: Stands Canlyniad: Results Cic o’r smotyn: Penalty Efaill: Twin Callio: To wisen up Dyrchafiad: PromotionClip 3 Ffyddlon: Faithful Bradwyr: Traitors Yn datgan: Declaring Rhyfedd: Strange Yn fanwl gywir: Being accurate Wedi bachu: Nicked Cael gwared ar: To get rid of Ansicrwydd: Uncertainty Strwythuro: To structure Cuddio: To hide Ymwybodol : AwareClip 4 Mwya poblogaidd: Most popular Cynulleidfa lawn: A capasity audience Denu: To attract Yn gyson: Regularly Hybu: To promote Perchnogion: Owners Ar y cyd â: Jointly w

  • Pont: Judi Davies

    14/01/2025 Duração: 15min

    Saesnes yw Judi a gafodd ei magu yn Lloegr. Cwrdd â Chymro di-Gymraeg a’i denodd hi i ymgartrefu yn Aberdâr. Wedi iddi ymddeol yn gynnar o’i swydd fel athrawes, penderfynodd ymuno â Chwrs Dwys, Prifysgol De Cymru er mwyn dysgu’r Gymraeg. Erbyn hyn, mae hi’n fam-gu ac yn defnyddio’r Gymraeg gyda’r wyrion ac yn gwirfoddoli gyda maes Cymraeg i Oedolion. Mae hi’n aelod o gangen leol Merched y Wawr ac yn gwirfoddoli fel siaradwr rhugl ar gynllun partnera’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae ei brwdfryddedd a’i hangerdd dros y Gymraeg yn heintus.

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr, Ionawr 7fed, 2025

    07/01/2025 Duração: 31min

    Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Rhagfyr yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Geirfa ar gyfer y bennod:-CLIP 1Beiriniaid: JudgesIas: A shiverChwerw-felys: Bitter sweetDiniwed: InnocentCynhyrchwyr: ProducersClyweliadau: AuditionsHyfforddwyr: CoachesEwch amdani: Go for itSylwadau: CommentsY Bydysawd: The UniverseCyfarwyddwr: DirectorCLIP 2Lleoliad: LocationGwerthfawrogi: To appreciateHeb os: Without doubtYn ei hawl ei hun: In its own rightDenu cynulleidfa: To attract an audienceDifreintiedig: DisadvantagedWedi elwa: Has profitedYn sylweddol: SubstantiallyFyddwn i’n dychmygu: I would imagineYn bellgyrhaeddol: Far reachingY tu hwnt i: BeyondAchlysuron arbennig: Special occasionsCLIP 3Yn achlysurol: OccasionallyTroedio yn ofalus: Treading carefullyI raddau: To an extentYmwybodol: AwareAgweddau: AspectsRhagrith: HypocrisyEithafiaeth: ExtremismAr yr ymylon: On the fringesFfydd: Faith

  • Pont: Kierion Lloyd

    10/12/2024 Duração: 17min

    Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Kierion Lloyd.Cafodd Kierion Lloyd ei eni yn Aberhonddu ond oherwydd gwaith y teulu treuliodd ei blentynod yn byw dramor. Dychwelodd i ardal Wrecsam yn ddeunaw oed. Wedi cyfnod yn teithio yn Seland Newydd, roedd yn benderfynol o fynd ati i ddysgu’r Gymraeg ac i ailgydio yng ngwreiddiau’r teulu. Erbyn hyn, mae’n byw yn Rhosllanerchrugog. Mae ei hoffter a’i ddiddordeb mewn cerddoriaeth Gymraeg wedi bod yn allweddol yn ei daith iaith.

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr, Rhagfyr 5ed, 2024

    05/12/2024 Duração: 32min

    Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Tachwedd yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.

  • Pont: Naomi Hughes

    12/11/2024 Duração: 19min

    Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Naomi Hughes. Merch a fagwyd yng Nghaerdydd yn ardal Llaneirwg yw Naomi Hughes. Mae hi o dras cymysg, ei mam o dras Tsieineaidd a’i thad yn Gymro di-Gymraeg o Gaerdydd. Er iddi gael ei magu yng Nghaerdydd yn yr wythdegau a’r nawdegau prin oedd ei hymwybyddiaeth a’i chysylltiad â’r Gymraeg. Wedi cyfnod yn teithio’r byd yn ei hugeiniau, dychwelodd i Gymru yn benderfynol o ddysgu’r Gymraeg. Cymhwysodd fel athrawes ac erbyn hyn mae’n dysgu ei phwnc drwy gyfrwng y Gymraeg mewn Ysgol Gyfun Gymraeg. Mae’n gadeirydd Menter Iaith Merthyr Tudful ac yn gyfrifol am ddatblygiad y Gymraeg yn ei hardal. Mae hefyd yn is-gadeirydd Yes Cymru.

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr, Tachwedd 5ed, 2024

    05/11/2024 Duração: 35min

    Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Hydref yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.

  • Pont

    11/10/2024 Duração: 20min

    Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Joseff Gnagbo.Ffoadur a wnaeth ffoi o’r Arfordir Ifori yng Ngorllewin Affrica yn 2010 yw Joseff. Yn dilyn rhyddhau cân rap yn annog ei gydwladwyr i wrthsefyll y chwyldro yn ei wlad, daeth yn darged milwrol a bu rhaid iddo ffoi o’r wlad. Bu’n byw ym Morocco am gyfnod cyn ymgeisio am loches ym Mhrydain yn 2017. Wedi iddo gyrraedd Cymru aeth ati’n syth i ddysgu’r Gymraeg. Erbyn hyn, mae’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg fel athro cyflenwi yng Nghaerdydd. Wedi cyfnod yn gwirfoddoli gyda Chymdeithas yr Iaith, cafodd Joseff ei ethol yn Gadeirydd y Gymdeithas, ac mae'n newydd gael ei ail-ethol yn Gadeirydd am dymor arall. Eleni yn y Brifwyl ym Mhontypridd cafodd Joseff ei urddo i'r orsedd am ei gyfraniad i’r Gymraeg.

  • Sgwrsio: Isabella Colby Browne

    08/10/2024 Duração: 41min

    ‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Isabella Colby Browne, enillydd Medal Bobi Jones yn Eisteddfod yr Urdd ym Meifod eleni. Cafodd Isabella ei geni yn America cyn symud i’r Wyddgrug pan yn ifanc. Mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel actores.

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr, Hydref 2ail, 2024

    02/10/2024 Duração: 32min

    Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Medi yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.Geirfa ar gyfer y bennod:-Clip 1 Trawsblaniad calon: Heart transplant Cwpan y Byd: World Cup Y garfan: The squad Be mae o’n ei olygu: What does it meanClip 2 Ymateb: Response Cyflawn: Complete Rhyng Gol: Inter college Di-lol: No nonsense Yn y pen draw: In the end Enwogrwydd: Fame Rhyngwladol: International Corwynt: Hurricane Cyfweliadau: Interviews Medra: I canClip 3 Cyfryngau cymdeithasol: Social media Dilynwyr: Followers Hyrwyddo: To promote Bob cwr: Every corner Yn gyfrifol am: Responsible for Dylsen ni neu dylen ni: We should Cenedl: Nation Yn ormodol: ExcessivelyClip 4 Swyddog Datblygu Cymunedol; Community Development Officer Darganfod: To discover Addas: Appropriate Ymgeisiais i: I applied Gwobr: Award Diolchgar: Thankful Enwebu: To nominate Ysbrydoli: To inspire Ystyried: To consider Trochi: To

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Medi'r 10fed 2024

    10/09/2024 Duração: 24min

    Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Awst yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.Geirfa ar gyfer y bennod:-Clip 1 – Sian Phillips Cysylltiadau : Connections Dodi : To put Adrodd : To recite Am wn i : I suppose Y fraint : The honour Gwrthod : To refuseClip 2 - Megan Williams Awgrymu : To suggest Yr Unol Daleithiau : The United States Yn gyffredinol : Generally Cymuned : Community Golygydd : EditorClip 3 – Katie Hall Cyflwyniad : Introduction Gradd : Degree Y fath beth : Such a thingClip 4 – Lili Mohammad Caeredin : Edinburgh Ysbrydoli : To inspire Datblygu : To develop Sioe gerdd : Musical Llywodraeth : Government Rhyfel : War Doniol : Amusing Ysgafn : Light O ddifri : Serious Arwain y fyddin : Leading the armyClip 5 – Elen Rhys ‘Sa i’n gwybod’ : am ‘dw i ddim yn gwybod’ Mo’yn' : am ‘isio’ Diwydiant : Industry Diflannu : To disappear Y cyfnod clo : The lockdownClip 6 - Andy Bell Cyfarwydd

  • Sgwrsio: Aleighcia Scott

    10/09/2024 Duração: 40min

    ‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Aleighcia Scott.

  • Sgwrsio: Kieran McAteer

    13/08/2024 Duração: 46min

    ‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Kieran McAteer.

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst y 6ed 2024

    06/08/2024 Duração: 32min

    Uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Gorffennaf.

  • Sgwrsio: Jess Martin

    09/07/2024 Duração: 48min

    ‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Jess Martin, sydd yn gyfrifol am y cyfrif Instagram ‘dysgugydajess’.

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Gorffennaf yr 2il 2024.

    02/07/2024 Duração: 30min

    Geirfa Ar Gyfer Y Bennod:Clip 1 Cynadleddau: Conferences Ar ein cyfyl ni: Near to us Cael ein rhyfeddu: Being amazed Ar y cyd: Jointly Gwthio: To push Gweld ei eisiau e: Missing him Diolchgar: Thankful Dyletswydd: Duty Gwerthfawr: Valuable Hunanhyder: Self-confidenceClip 2 Rhaid i chi faddau i mi: You must forgive me Ar wahân: Seperately Trafferthion: Problems Antur: Adventure Bwriad: Intention Daearyddol: GeographicalClip 3 Mam-gu: Grandmother Y bwrdd: The table Cwyno: Complain Sylweddoli: To realise Atgof: A memory Dylanwad: Influence Cerddorol: Musical Yn y pendraw: In the end Magwraeth: UpbringingClip 4 Arfogi: To arm Cyfuniad: Combination Cyfranwyr: Contributors Cyflwr: Condition Rhwydd: Easy Ymateb: Response Cyfarwydd â: Familiar with Llwyth: Loads Ystrydebol: Stereotypical Sa i’n siŵr: I’m not sureClip 5 Anrhydedd: Honour Diwylliant: Culture Ymafael â: To grasp Ail-law: Second hand Arwydd o barch: A mark of respectClip 6 Rhagweld: To anticipate Awyrgylch: Atmosphere Bwrlwm: Buzz Cyfrannu: To

  • Sgwrsio: Joshua Morgan

    11/06/2024 Duração: 51min

    ‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Joshua Morgan, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel 'Sketchy Welsh'.

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin y 4ydd 2024.

    04/06/2024 Duração: 27min

    Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Mai yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.Geirfa ar gyfer y bennod:- Clip 1 Creais i - I created Pam est ti ati - Why you went about it Cerddoriaeth - MusicClip 2 Hediadau - Flights Ymdopi - To cope Blinedig - Tiring Seibiant - A rest Effro - Awake Wrth y llyw - At the tiller Newid perchnogaeth - Change of ownership Diwydiant - Industry Adfer - To recoverClip 3 Profiadau -Experiences Antur - Adventure Rhyngwladol - International Gwerthfawr tu hwnt - Extremely valuable Anhygoel - IncredibleClip 4 Rhydychen - Oxford Rhyfedd - Strange Prif Weinidog - Prime Minister Doniol - Amusing Dwyrain Canol - Middle East Cyfreithiwr - SolicitorClip 5 Chwerthin - To laugh Y cof cynta - The first memory O waelod bol- From the bottom of the stomach Gweladwy - Visual Llwyfan - StageClip 6 Ynglŷn â - Regarding Breuddwyd - A dream ‘Swn i ddim yn synnu - I wouldn’t be surpr

  • Sgwrsio: Luciana Skidmore

    14/05/2024 Duração: 37min

    ‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Luciana Skidmore.Cafodd Luciana ei geni ym Mrasil, ond erbyn hyn mae hi yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.

página 1 de 19