Informações:
Sinopse
Podlediad misol sy'n trafod barddoni gyda'r bwystfil barddol a elwir yn Aneurig (Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury)
Episódios
-
Clera Rhagfyr 2024
20/12/2024 Duração: 01h52minGyda chyfarchion yr Ŵyl, croeso mawr i chi i bennod mis Rhagfyr, 2024 o Clera. Mae gyda ni wledd o lyfrau a sgyrsiau â'r beirdd a'u saerniodd ar eich cyfer. Cawn gwmni felly, Christine James, Daniel Huws, Meleri Davies a Dafydd John Pritchard, sydd oll newydd gyhoeddi cyfrolau newyd sbon. Ewch ati i'w prynu fel anrhegion Nadolig, neu jyst fel llyfrau gwerth eu cael. Hefyd cawn glywed y Delicysi gan Tudur Dylan ac mae ein beirniad llym, Gruffudd Antur yn ei ôl i ddewis y llinell gynganeddol ddamweiniol y mis orau ar gyfer mis Rhagfyr. Hyn oll, a mwy o'r dwli arferol! Ac os hoffech wneud cyfraniad ariannol i'n helpu ni i ddatblygu'r podlediad, ewch i: https://www.crowdfunder.co.uk/p/podlediad-clera Nadalek llawen i chi gyd!
-
Clera Tachwedd 2024
30/11/2024 Duração: 01h36minCroeso i bennod y mis Du o bodlediad Clera. Y tro hwn cawn glywed cerdd arobryn Mared Fflur Jones a enillodd Gadair Eisgteddfod Genedlaethol y Ffermwyr Ifanc. Cawn hefyd glywed darlith Gruffudd Antur o Wyl Gerallt yn cofio y Prifardd Feuryn ei hun, y diweddar Gerallt Lloyd Owen, ddeng mlynedd wedi inni ei golli. Hyn a llawer mwy.
-
Clera Hydref 2024
31/10/2024 Duração: 01h32minCroeso i bennod mis Hydref o bodlediad Clera. Y tro hwn cawn y fraint o sgwrsio gyda Phrifardd y Goron, Gwynfor Dafydd, i drafod pob math o bethau am y byd barddol, gan gynnwys ei gerddi gwych a gipiodd Goron yr Hen Bont iddo. Cawn hefyd gerdd gan enillydd Llyfr y Flwyddyn, Mari George, o'i phamffled newydd hi o gerddi. Cawn hefyd gwmni sawl un arall gan gynnwys, Elinor Wyn Reynolds, Jo Heyde, Tudur Dylan a Gruffudd Antur. Mae gennych hefyd gyfle i gefnogi clera yn ariannol os ydych chi'n mwynhau'r podlediad. Cliciwch ar y linc: https://www.crowdfunder.co.uk/p/podlediad-clera
-
Clera Medi 2024
28/09/2024 Duração: 01h55minCroeso i bennod hynod o swmpus o bodlediad Clera. Yn rhifyn mis Medi cawn nid yn unig glywed llais yr Archdderwydd, Mererid Hopwood yn trafod gwaith arobryn Cadair Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, ond cawn hefyd sgwrs hynod ddifyr yng nghwmni enillydd y Gadair honno, Y Prifardd Carwyn Eckley. Cawn hefyd y fraint o roi llwyfan i gerdd Gymraeg gyntaf yr awdur Mike Parker ynghyd a llawer mwy o'r dwli arferol.
-
Clera Awst 2024 - Yn Fyw o'r Babell Lên
16/08/2024 Duração: 45minCroeso i bennod arbennig o Clera - yn fyw o'r Babell Lên. Ar sadwrn ola'r brifwyl wych a gynhaliwyd ym Mhontypridd, cawsom gwmni gwesteion ffraeth a difyr, sef Llio Maddocks, Siôn Tomos Owen, Gruffudd Antur a'r Prifardd Gwynfor Dafydd.
-
Clera Gorffennaf 2024
31/07/2024 Duração: 01h44minCroeso i bennod mis Gorffennaf o bodlediad barddol Cymraeg hyna'r byd! Yn y rhifyn hwn, cawn sgwrs ddifyr gyda Bardd y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd eleni, Lois Medi Wiliam. Cawn hefyd sgwrs ddifyr am bamffledi gyda dau fardd sy'n cyhoeddi pamffledi newydd, sef Mari George a Jo Heyde. Cawn hefyd flas o gerddi arobryn Cadair Gŵyl Fawr Aberteifi, gan yr enillydd, Lowri Lloyd. Hyn a llawer mwy. Mwynhewch!
-
Clera Mehefin 2024
28/06/2024 Duração: 01h16minCroeso i bennod Mis Mehefin o bodlediad barddol Clera. Y Mis hwn, Elinor Wyn Reynolds sy'n tafoli cyfrolau barddol Llyfr y Flwyddyn ac yn rhoi ei phen ar y bloc. Ond pa gyfrol mae Elinor yn tybio ddylsai ennill o blith y tair cyfrol wych sy'n y categori barddol eleni? Gwrandwch i gael gwybod. Cawn hefyd gerdd gan yr hyfryd Jo Heyde sydd wedi cyhoeddi ei chasgliad cyntaf o gerddi drwy Gyhoeddiadau'r Stamp. Mynnwch gopi! Hyn oll a mwy!
-
Clera Mai 2024
25/05/2024 Duração: 01h14minHawddamor, glwysgor glasgoed! Croeso i bennod Mis Mai o bodlediad Clera. Yn hoff fis Dafydd ap Gwilym cawn drafod llawysgrif newydd y mae'r Llyfrgell genedlaethol newydd ei brynu, Llyfr y Flwyddyn 2024, Eisteddfodau yr Urdd, Rhondda Cynon Taf a Wrecsam ac fe gawn hefyd gerddi gan Aron Pritchard ac Aled Lewis Evans. Hyn oll, a mwy!
-
Clera Ebrill 2024
28/04/2024 Duração: 01h18minCroeso i bennod mis Ebrill o bodlediad barddol Clera. Y mis hwn cawn y pleser o holi Sioned Dafydd, Cyflwynydd Sgorio a Golygydd y flodeugerdd newydd o gerddi am y campau, 'Mae Gêm yn Fwy na Gêm' (Cyhoeddiadau Barddas). Clywn hefyd am arddangosfa o gelf a barddoniaeth sy'n ymateb i waith y bardd mawr o Gwrdistan, Abdulla Goran, yng nhgwmni Alan Deelan, Heledd Fychan AS ac Ifor ap Glyn. Hyn oll a chwmni ffraetha difyr ein Posfeistr, Gruffudd Antur.
-
Clera Mawrth 2024
23/03/2024 Duração: 01h14minCroeso i bennod mis Mawrth o bodlediad Clera. Y tro hwn rydyn ni'n Pwnco am Pencerdd - cynllun cyffrous Pencerdd lle mae 5 bardd yn cael blwyddyn gyda 5 athro barddol i gamu ymlaen yn eu cynganeddu. Cawn felly gwmni Non Lewis ac Ana Chiabrando Rees, ill dwy yn rhan o'r 5 disgybl ar gynllun Pencerdd, yn ogystal â Mared Roberts a Leusa Llywelyn o Lenyddiaeth Cymru. Hyn a llawer mwy, mwynhewch.
-
Clera Chwefror 2024
28/02/2024 Duração: 01h11minCroeso i bennod y Mis Bach o bodlediad barddol Cymraeg hyna'r byd! Yn y bennod hon cawn bwnco yng nghwmni mari George a Jo Heyde wrth i ni drafod cyfrol newydd sbon 'Cerddi'r Arfordir' (Cyhoeddiadau Barddas). Hyn a hefyd barn dreiddgar Gruffudd Antur ar Linell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis, ac mae gyda ni rai da y mis hwn!! Hyn a llawer mwy! Mwynhewch.
-
Clera Ionawr 2024
27/01/2024 Duração: 01h25minBlwyddyn newydd dda i chi gyd! Ym mhennod gynta'r flwyddyn cawn ddwy gerdd arbennig gan y Prif Lenor Sioned Erin Hughes. Byddwn hefyd yn Pwnco am Bwnco! Gwrandewch i wybod mwy a mwynhau pennod arall lawn dop o drin a thrafod barddol.
-
Clera Rhagfyr 2023
19/12/2023 Duração: 01h41minCroeso i bennod mis Rhagfyr o Clera. Mae 'na gymysgedd o eitemau Nadolig ac eitemau oesol yn y bennod hon. Cawn y fraint o rannu darlith Gurffudd Antur a Peredur Lynch o Blas Mostyn, fel rhan o ŵyl Gerallt yng Nghaerwys. Delicasi Dolig gan Tudur Dylan Jones, Gorffwysgerdd nadoligaidd o gyfrol newydd Rhys Dafis ac englynion newydd sbon gan y Prifardd-Archdderwydd, Mererid Hopwood. Mwynhewch a Nadolig Llawen i chi gyd.
-
Clera Tachwedd 2023
28/11/2023 Duração: 01h26minCroeso i bennod y Mis Du o bodlediad Clera. Yn gydymaith i chi wrth i'r nosweithi dywyllu'n gynt bydd arlwy difyr o'r byd barddol Cymraeg. Cawn sgwrs ddifyr a Gorffwysgerdd gan Clare E. Potter a fu'n fardd y mis ar Radio Cymru. Sgwrs ddifyr hefyd gyda'r Prifardd-Feuryn Twm Morys am ei gyfrol newydd a ddaeth allan dros yr haf, 'Y Clerwr Olaf' yn ogystal â sgwrs gyda Twm,y Meuryn, a'r Islwyn newydd yn Ymryson Barddas, Gruffudd Antur. Hyn...a mwy!!
-
Clera Hydref 2023
27/10/2023 Duração: 01h15minCroeso i bennod mis Hydref o bodlediad barddol hyna'r byd yn y Gymraeg. Y tro hwn cawn sgwrs hynod ddifyr a theimladwy gyda'r Prifardd Gruffudd Eifion Owen ynglŷn â'i ail gyfrol wych o gerddi, 'Mymryn Rhyddid' (Cyhoeddiadau Barddas). Hefyd cawn gerdd nas cyhoeddwyd o'r blaen o waith y diweddar Archdderwydd, Dafydd Rowlands, a Sioned Dafydd, y cyflwynydd pêl-droed adnabyddus, ac wyres Dafydd Rowlands sy'n ei darllen. Hyn a llawer mwy.
-
Clera Medi 2023
29/09/2023 Duração: 01h43minCroeso i bennod mis Medi o bodlediad barddol Cymraeg hynaf y byd! Yn y bennod hon cawn sgwrs gyda phrifardd y Goron, Rhys Iowerth am ei gerddi arobryn. Hefyd yn trafod gwaith buddugol Alan Llwyd yn y Gadair mae Jo Heyde a'r Prifardd Tudur Dylan Jones. Hefyd cawn wrando ar gerddi a enillodd wobrau mewn eisteddfodau i Gareth Lloyd James ac Alan Iwi. Mwynhewch
-
Clera Awst 2023
31/08/2023 Duração: 01h01minCroeso i bennod mis Awst o Clera, sy'n dechrau ar y gwaith o drin a thrafod a thafoli'r Eisteddfod yng nghwmni'r Prifardd Hywel Griffiths. Byddwn yn gwneud mwy o adladd parthed y steddfod yn y misoedd i ddod. Ond cawn un eitem y tro hwn a recordiwyd ar faes y brifwyl, sef llinell gynganeddol ddamweiniol y maes, gyda Gruffudd Antur.
-
Clera Gorffennaf 2023
21/07/2023 Duração: 01h32minCroeso i bennod mis Gorffennaf o bodlediad barddol cymraeg hyna'r byd! Yn y bennod hon, cawn nid un, nid dwy, nid tair a na, nid pedair ond pum cerdd gan feirdd amrywiol, o Ddisgyblion Ysgol Uwchradd Aberaeron, i Arwel Rocet, Casi Wyn a Llio Maddocks. Sylw teilwng hefyd i Granogwen yn sgil dadorchuddio'r cerflun newydd arbennig ohoni, ac yn hynod gyffrous hefyd, sgwrs gyda Beirdd Plant Cymru, Casi Wyn, y Bardd Plant cyfredol a Nia Morais, y darpar Fardd Plant. Diolch hefyd i Llio Maddocks am rannu ei thelyneg fendigedig i Granogwen ac i Casi Wyn am y fraint o gael chwarae ei chân hudolus hi a disgyblion Ysgol T Llew Jones i Cranogwen. Hyn oll a mwy!
-
Clera Mehefin 2023
30/06/2023 Duração: 01h43minCroeso i'r bennod swmpusaf erioed o bodlediad Clera! Yn ogystal â thrin a thrafod y cyfnod hynod brysur sydd ar ein gwarthaf yn y byd barddol, a llongyfarch aml i fardd ar eu lwyddiannau, cawn orffwysgerdd yn egsliwsif gan fardd y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd, Tegwen Bruce-Deans. Cawn farn Jo Heyde hefyd ar lyfrau'r categori barddol yn Llyfr y Flwyddyn 2023 a llawer mwy.
-
Clera Mai 2023 - Eisteddfod yr Urdd
31/05/2023 Duração: 40minPennod arbennig o faes Eisteddfod yr Urdd, Sir Gâr yn Llanymddyfri. Cawn sgyrsiau gyda chyn-enillwyr Cadair yr Urdd, Iwan Rhys a Kayley Sydenham ynghyd â chlywed gan Drefnydd Creadigol yr Eisteddfod, Llio Maddocks. Cawn hefyd gerdd gan Tegwen Bruce-Deans o'i chyfrol gyntaf, 'Gwawrio'.