Informações:
Sinopse
Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos. Political discussion.
Episódios
-
Ta Ta RT
04/12/2024 Duração: 30minAr ôl i Andrew RT Davies ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd mae Vaughan a Richard yn dadansoddi'r heriau i'r blaid ac yn gofyn pwy sy'n debygol o'i olynu. Mae Rhys Owen, gohebydd gwleidyddol Golwg 360 yn y Senedd yn ymuno i drafod sut all Llywodraeth Cymru pasio ei gyllideb wythnos nesa'. Ac ar ôl i arolwg barn newydd osod Plaid Cymru ar y blaen am y tro cyntaf ers 2010, Llafur a Reform yn gydradd ail a'r Ceidwadwyr yn bedwerydd. Beth all hyn olygu i'r pleidiau?
-
Pwy ydyn ni? A sut mae'n effeithio ar ein pleidlais?
27/11/2024 Duração: 22minSut mae ein hunaniaeth yn effeithio ar y ffordd 'da ni'n mynd ati i bleidleisio? Dyna sy'n cael sylw Vaughan a Richard yn y bennod ddiweddara. Mae'r ddau yn trafod sut mae patrymau pleidleisio wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf.Hefyd, trafod llyfr Richard sy'n astudio meddylfryd gwleidyddol Plaid Cymru o 1925 i 1997.
-
Trump yn y Tŷ Gwyn ac effaith y gyllideb ar Gymru
06/11/2024 Duração: 28minBethan Rhys Roberts sy'n ymuno â Vaughan a Richard i drafod buddugoliaeth Donald Trump yn yr etholiad arlywyddol yn America. Wythnos wedi'r gyllideb mae Guto Ifan hefyd yn ymuno i drafod goblygiadau cyhoeddiad Rachel Reeves ar Gymru. Ac ar ôl i Kemi Badenoch gael ei hethol yn arweinydd newydd y Ceidwadwyr, mae'r ddau yn trafod yr heriau i'r blaid ar lefel Brydeinig ac yma yng Nghymru.
-
Cyfraniad Alex Salmond a 100 diwrnod cyntaf Llafur
15/10/2024 Duração: 28minAr ôl marwolaeth cyn Prif Weinidog yr Alban Alex Salmond, mae Vaughan a Richard yn trafod ei farc ar wleidyddiaeth Prydain. Mae'r ddau hefyd yn trafod 100 diwrnod cyntaf Keir Starmer yn Downing Street ac yn edrych ymlaen at y ras i fod yn arweinydd y blaid Geidwadol rhwng Kemi Badenoch a Robert Jenrick.
-
Tymor Newydd yn Dechrau
18/09/2024 Duração: 31minGyda'r tymor seneddol newydd wedi dechrau mae Vaughan a Richard yn trafod yr hyn fydd ar yr agenda ym Mae Caerdydd a San Steffan. Maen nhw hefyd yn dadansoddi penodiadau Eluned Morgan i'w chabinet ar hyn mae'r penodiadau yn golygu i'r grŵp Llafur yn y Bae. Ac a hithau'n ddeng mlynedd ers refferendwm annibyniaeth yr Alban mae cyflwynydd Newyddion S4C, Bethan Rhys Roberts, yn ymuno gyda Vaughan a Richard i rannu ei hatgofion hi o'r cyfnod ac i drafod dyfodol yr SNP.
-
O Faes yr Eisteddfod
07/08/2024 Duração: 35minWedi'i recordio ar faes yr Eisteddfod, mae Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones yn trafod yr heriau sy'n wynebu Prif Weinidog newydd Cymru, Eluned Morgan. Mae'r ddau yn dadansoddi etholiad y Senedd yn 2026, a sut fydd y system bleidleisio newydd yn gweithio. Ac i gloi mae ychydig o gwestiynau gan y gynulleidfa i'r ddau.
-
Eluned Morgan yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru
24/07/2024 Duração: 29minCyn Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones sy'n ymuno â Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones i ddadansoddi Eluned Morgan yn dod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru. Mae'r ddau yn trafod yr heriau sydd yn ei hwynebu i uno grwp y blaid yn y Senedd a'i hapêl i etholwyr Cymru.
-
Ymddiswyddiad Vaughan Gething
17/07/2024 Duração: 24minAr ôl i Vaughan Gething ymddiswyddo wedi 118 o ddiwrnodau yn y swydd fel Prif Weinidog Cymru, Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones sy’n trafod y ffactorau wnaeth arwain at ei benderfyniad. Mae’r ddau yn dadansoddi'r hyn mae’n golygu i’r Blaid Lafur a’r heriau fydd yn wynebu grŵp y blaid yn y Senedd gan ystyried pwy sy’n debygol o sefyll os oes ras i’w olynu.
-
10 Gorffennaf: Dadansoddi canlyniadau’r Etholiad Cyffredinol
10/07/2024 Duração: 31minAr ôl i'r blaid Lafur ennill buddugoliaeth hanesyddol yn yr etholiad cyffredinol mae Vaughan a Richard yn dadansoddi’r canlyniadau yng Nghymru gan drafod ymgyrch y pleidau gan edrych ymlaen hefyd at etholiadau'r Senedd yn 2026. Mae’r ddau hefyd yn rhannu eu hargraffiadau o ddyddiau cynnar llywodraeth Keir Starmer ac yn ystyried dyfodol y Blaid Geidwadol.
-
02 Gorffennaf: Dyfodol y Ceidwadwyr, a'r etholiad yn yr Alban
02/07/2024 Duração: 28minYn y podlediad olaf cyn yr etholiad cyffredinol, cyn ymgynghorydd Boris Johnson, Guto Harri sy’n ymuno â Vaughan a Richard yr wythnos hon. Ymgyrch y Ceidwadwyr a dyfodol y blaid yw rhai o’r pynciau o dan sylw. Mae golwg penodol hefyd yn cael ei rhoi i’r etholiad yn yr Alban ac argraffiadau'r ymgyrch dros y pum wythnos diwethaf.
-
26 Mehefin: Y sgandal gamblo, a'i effaith ar yr ymgyrch
26/06/2024 Duração: 32minFaint o effaith mae honiadau o gamblo yn ei gael ar ymgyrch yr etholiad? Dyna brif ffocws Vaughan Roderick a’r Athro Richard Wyn Jones.Sylw i ymgyrch Plaid Cymru, gyda dadansoddiad gan cyn aelod Cynulliad y Blaid, Nerys Evans. Ac mae sylw penodol hefyd yn cael ei rhoi i etholaethau'r de.
-
19 Mehefin: Maniffestos Y Blaid Lafur a Phlaid Cymru
19/06/2024 Duração: 37minVaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones sy'n trafod maniffestos y Blaid Lafur a Phlaid Cymru gan ystyried perthynas Llafur Cymru a'r blaid yn eangach ar lefel Brydeinig. Yn ymuno gyda'r ddau mae Owen John cyn ymgynghorydd arbennig i gyn Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford i drafod tactegau Llafur yn yr ymgyrch hyd yma. Hefyd mae'r ddau yn dadansoddi yr ymgyrch etholiadol y Ceidwadwyr dros yr wythnos diwethaf, tactegau ymgyrchu'r Democratiaid Rhyddfrydol ac arwyddocad Reform UK yn lansio ei 'chytundeb' gyda'r bobl ym Merthyr Tudful.. Cyfle hefyd i roi sylw penodol i etholaethau'r Canolbarth a'r Gorllewin.
-
12 Mehefin: Etholaethau'r Gogledd
12/06/2024 Duração: 31minVaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones yn trafod yr ymgyrch etholiadol hyd yma, gan ganolbwyntio ar rai o etholaethau'r gogledd.
-
Llond Bol o Bledleisio
25/03/2021 Duração: 21minVaughan Roderick a’r Athro Richard Wyn Jones sy’n cychwyn y ras i etholiad Senedd Cymru yng nghwmni Kate Crockett.
-
Brexit yn Berwi
18/12/2020 Duração: 24minTrafodaeth danbaid wrth i’r UE a llywodraeth y DU geisio taro bargen ar gytundeb masnach.
-
Cytundeb masnach ar y dibyn?
11/12/2020 Duração: 23minAlun Thomas, Elliw Gwawr, Mared Gwyn, Paul Davies ac Hywel Williams sy'n trafod.
-
Y Brechlyn Newydd
04/12/2020 Duração: 24minAlun Thomas yn holi pa mor barod fydd pawb i gael eu brechu o ystyried yr holl newyddion ffug ar wefannau.
-
Nadolig Covid
27/11/2020 Duração: 20minTrafod effaith cyfyngiadau y coronafeirws ar yr ŵyl gyda Gwenllian Grigg, Teleri Glyn Jones, Dr Eleri Davies o Iechyd Cyhoeddus Cymru a Ifan Llywelyn.
-
Drama Downing Street
20/11/2020 Duração: 21minYr Athro Richard Wyn Jones, Vaughan Roderick a Morley Jones sy’n ymuno â Gwenllian Grigg.
-
Beth nesa i America?
13/11/2020 Duração: 21minGwenllian Grigg sy’n holi Bethan James, Syr Deian Hopkin a’r Athro Jerry Hunter